• Rhowch rywbeth yn ôl ar ddydd Mawrth ‘Rhoi’

    A ydych yn cael budd o olygfeydd gwych a gwylltineb Eryri? Beth am roi rhywbeth yn ôl drwy gyfrannu at Gymdeithas Eryri neu gymryd rhan yn ein dyddiau gwaith gwirfoddoli?

    Continue reading
  • WEDI EI GYHOEDDI: Adolygiad o Lywodraethu o Dirweddau Dynodedig

    Mae’r argymhellion yn cynnwys ein pwyntiau allweddol Yn dilyn cyflwyniad o dystiolaeth ysgrifenedig i’r panel ar ddau gam yr adolygiad pwysig hwn, rydym yn falch o weld bod yr argymhellion yn cynnnwys pwyntiau allweddol a wnaed yn ein tystiolaeth (darllenwch ein hymateb), yn benodol, y dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gadw eu cyfrifoldebau cynllunio yn gyfan gwbl, ac nad […]

    Continue reading
  • Rhododendron: o safbwynt ecosystem

    Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn gweithio’n ddiflino ers blynyddoedd i frwydro Rhododendron ponticum yn Eryri, ac yn fwy penodol yn Nant Gwynant. Beth sydd mor ddrwg am y planhigyn hwn â’i flodau pinc prydferth? Beth yw effeithiau’r planhigyn ei hun, a’n hymdrechion i’w reoli?

    Continue reading
  • Garlleg gwych Gareth yn ennill gwobr o £310 i Eryri

    Ennillwyd y 6ed Her Tyfu Garlleg Moriarty Thomas gan Dr Gareth Jones o Dregarth, a mae o wedi dewis Cymdeithas Eryri i dderbyn y wobr o £310. Mae’r her yn cael ei chynnal yn flynyddol yn y Douglas Arms, Bethesda, fel digwyddiad elusennol er cof am John Moriarty, a oedd yn fynyddwr brwd iawn.

    Continue reading
  • Swydd Wag – Aelod – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

    Dyddiad cau 5ed Tachwedd. Mae’r Awdurdod fel arfer yn cynnal cyfarfodydd yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri. Manylion llawn Disgrifiad o’r swydd Beth fydd disgwyl i chi ei wneud? Mae aelodau’r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigolion ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweiniad effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei […]

    Continue reading
  • Snowdonia mountains

    Digwyddiadau’r gaeaf

    Mae ein digwyddiadur gaeaf wedi ei gyhoeddi â sylw ar fynyddoedd Eryri. Dyma gyfle i’w dringo, clirio sbwriel oddi arnynt, deall eu daeareg ac eu ecoleg rhostir a helpu i’w gwarchod.  Mae na gyfle i ddysgu eu mwynhau’n ddiogel ar ddiwrnod o hyfforddiant, Cyfeiriannu yn y Mynyddoedd,   dan arweiniad Alun Pugh, ar 22 Tachwedd. Croesewir aelodau a […]

    Continue reading
  • Clawr cylchgrawn

    Cylchgrawn yr hydref

    Mae rhifyn hydref o ein cylchgrawn nawr ar gael, a thrafnidiaeth yn Eryri yw’r thema. Darllen y cylchgrawn ar-lein. Yn y Golygyddol medda John Harold, Cyfarwyddwr y Gymdeithas: “Hydref yn Eryri: coedydd sy’n cynnal ffyngau aeddfed, afonydd yn gorlifo yn dilyn cawodydd trymion, a dyddiau perffaith prin gydag awyr las trawiadol uwchben y bryniau. Mae […]

    Continue reading
  • CCB – siaradwr gwadd wedi newid

    Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae Alun Ffred Jones AC wedi tynnu allan fel siaradwr yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2015 (17 Hydref). Rydym yn ddiolchgar iawn i Sabine Nouvet am gamu i mewn ar fyr rybudd. Sabine yw Ceidwad Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Eryri a Llŷn. Bydd yn rhoi sgwrs ar brosiect diddorol […]

    Continue reading
  • Helpwch i ddiogelu llwybrau Eryri

    Ymunwch â’r “Big Pathwatch”! Ymunwch ag ymgyrch uchelgeisiol y Cerddwyr i warchod a gwella ein llwybrau godidog yng Nghymru a Lloegr. A chael eich dweud yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Wella’r cyfleoedd i gael mynediad i’r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol, y mae Cymdeithas Eryri yn llunio ymateb iddo. (Gweler isod.) Ydych chi’n caru eich […]

    Continue reading
  • Dychmygwch hyn … ond heb y peilonau!

    Heddiw, mae un gornel drawiadol o Barc Cenedlaethol Eryri yn symud un cam yn nes at ddiwedd aflwydd y peilonau enfawr. Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer derfynol o 4 safle i gael y prosiect Darpariaeth Effaith Gweledol gwerth £500m, a fydd yn arwain at rannau o linellau foltedd uchel yn cael eu […]

    Continue reading
  • Rhybudd am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

    Rhybudd am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Dydd Sadwrn, 17 Hydref 2015, 2yp Theatr y Ddraig a Chanolfan Cymunedol y Bermo Ffordd Jubilee, Y BERMO, Gwynedd  LL42 1EF Mae John Harold, cyfarwyddwr y Gymdeithas, yn annog aelodau i gymryd rhan yn y CCB.  “Rydw i’n awyddus i glywed eich barn am faterion pwysig, ein gwaith a’n cyfeiriad”. […]

    Continue reading
  • Snowdonia marathon runners

    Yn eisiau: gwirfoddolwyr i Marathon Eryri

    Yn eisiau: gwirfoddolwyr i Marathon Eryri, Sad 24 Hydref Allwch chi helpu ar orsaf bwyd Beddgelert? Cysylltwch â netticollister@hotmail.com i gynnig help llaw. Mae angen gwirfoddolwyr arnom i ddosbarthu diod a geliau yn ein gorsafoedd bwyd, cadw’r lle’n daclus a chefnogi’r holl redwyr anhygoel. Mae Marathon Eryri yn cefnogi’r gymuned leol a’r llynedd roddwyd £14,000 i achosion da lleol […]

    Continue reading
  • Caiacwyr conwy

    Helpwch John a’i Dîm i Groesi’r Llinell!

    Yr holl elw at Gymdeithas Eryri! Mae Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold, wedi ffurfio tîm i gymryd rhan yn Her Mynydd Dyffryn Conwy Fabian4 ar 13 Medi. Bydd yr holl elw o’r digwyddiadau hwn yn cael eu defnyddio i gefnogi gwaith cadwraeth Cymdeithas Eryri ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol. Mae John yn agos at gyflawni […]

    Continue reading
  • Croeso i ein gwefan newydd!

    Gobeithio y byddwch yn hoffi ein gwefan newydd sy’n hawdd ei ddefnyddio ar ffonau symudol. Bydd y safle newydd hon yn hwyluso’r ffordd yr ydym yn rhannu gwybodaeth am ein hymgyrchoedd ac ein gwaith cadwraeth a gweithgareddau eraill. Hefyd, mae gwybodaeth am Dŷ Hyll wedi cael ei gynnwys ar y wefan hon. Edrychwch ar y nodweddion newydd megis y […]

    Continue reading
  • Ein gwaith yn Nant Gwynant a dalgylch Afon Gwyrfai: dehongliad ecosystem

    Our case study will focus on the Nant Gwynant and Gwyrfai areas.  This mountainous region includes mountain peaks, valley floors, natural lakes and rivers, woodland and heathland, and  features a number of protected sites

    Continue reading
  • Mae Bethan yn tyfu Tŷ Hyll

    Yn ysbrydoli pawb i garu natur Eryri. Mae’n bleser croesawu Bethan Wynne Jones i dîm Cymdeithas Eryri, fel Swyddog newydd Tŷ Hyll Tyfu. Mae Bethan wedi llunio rhaglen ddifyr o weithgareddau yn Nhŷ Hyll, yn cynnwys Cwrs cadw gwenyn, Arolwg o Famaliaid Bychan, Chwedlau’r Coetir, Saffari pryfed cop a Helfa Drysor Coed a Gwenyn. Gweler Digwyddiadau Tŷ Hyll events am restr lwan. Yn ferch fferm […]

    Continue reading
  • Caffi ar yr Wyddfa yn cefnogi Cymdeithas Eryri

    Mae Steffan yn nhŷ tê Pen-y-Ceunant Isaf ar y lôn i fyny’r Wyddfa yn rhoi croeso cynnes erioed i ein gwirfoddolwyr ar ôl ddiwrnod o waith yn clirio sbwriel oddi ar yr Wyddfa. Mae’n bleser gennym ddatgan fod Pen-y-Ceunant Isaf wedi cymryd cam pellach i gefnogi ein gwaith trwy ddod yn Aelod Busnes. Dewch â’ch byrbrydau eu hunain! Mae Pen-y-Ceunant […]

    Continue reading
  • Beth yw ecosystem a pham mae’n bwysig?

    Mae ecosystem yn enw torfol a ddefnyddir i ddisgrifio cymuned o organebau byw (megis planhigion, anifeiliaid a bacteria) ac elfennau anfyw eu hamgylchedd (megis creigiau, pridd a dŵr) yn rhyngweithio â’i gilydd.  Mae ecosystemau o’n cwmpas ym mhob man, o fariffau cwrel i laswelltiroedd i fforestydd glaw trofannol, ac rydym ni yn elfen fyw o […]

    Continue reading
  • climb-snowdon

    Mae RAW Adventures yn arwain y ffordd

    RAW Adventures yn arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb at yr amgylchedd. Bydd Kate a Ross Worthington yn enwau cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi cynorthwyo yn ystod diwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri yn clirio sbwriel neu gynnal llwybrau troed ar yr Wyddfa eleni.  Mae eu busnes – RAW Adventures – yn cynnig gwasanaeth tywys grwpiau ac […]

    Continue reading
  • archive_volunteer_snowdonia

    Yn eisiau: gwirfoddolwr archifo

    Allech helpu? Wrth dacluso’r swyddfa yn ddiweddar, fe wnaethom ganfod y poster hwn sy’n hysbysebu Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y Gymdeithas. Teimlad gostyngedig yw sylweddoli fod y weledigaeth oedd wrth wraidd y cyfarfod hwnnw a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin 1967 yn dal yn berthnasol hyd heddiw. Mae hanner canfed pen-blwydd y Gymdeithas ar y gorwel, […]

    Continue reading