Buddsoddi yn ein gwirfoddolwyr!

Fel rhan o’i gweithgareddau pen-blwydd yn 50 yn 2017, edrychodd Cymdeithas Eryri tua’r dyfodol a buddsoddi yn ei gwirfoddolwyr – wrth lansio hyfforddiant newydd ac achrededig. Ar hyn o bryd mae gennym ddwy uned i’w chynnig, y ddwy wedi eu hachredu gan Agored Cymru:

Medrau Cadwraeth Ymarferol Lefel 2: Mae’r uned hon yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno cael dull mwy ffurfiol o arddangos eu profiad ymarferol a’u gwybodaeth. Mae’n ofynnol i chi ymgymryd â 4 o ddyddiau cadwraeth gwahanol i gwblhau’r uned hon.

Wrth ymgymryd â’r uned hon, byddwch yn:

  • Ymgymryd ag ystod o orchwylion cadwraeth ymarferol mewn ystod o gynefinoedd
    • Arddangos eich gallu i weithio mewn dull diogel, ennill gwybodaeth am asesiadau risg a phwysigrwydd ee dillad gwarchodol personol.
    • Dod yn gyfarwydd gydag ystod o offer, sut i’w cynnal a’u cadw, a’u defnydd.
    Mae’r uned hon yn wych ar gyfer pobl sydd eisoes yn gwirfoddoli gyda ni, neu’r sawl sy’n awyddus i ddechrau. Dylai’r uned gymryd oddeutu 30 awr i’w chwblhau, gydag oddeutu 20-25 (4 diwrnod) o’r rhain wedi eu treulio ar ddyddiau gwaith neu’n gwneud gwaith cynnal a chadw ymarferol ar offer.

Ychydig o waith papur sydd ei angen, a’r unig beth sy’n ofynnol i chi ei wneud yw llenwi log cryno o’ch profiad yn dilyn pob diwrnod gwaith yn ogystal â llenwi 2 asesiad risg sy’n amlygu’r 3 neu 4 prif risg ar safle neu’n ystod gorchwyl.

Cynnal a Chadw Llwybrau Iseldir ac Ucheldir Lefel 1: Mae’r uned hon yn eich galluogi i ddysgu ac arddangos eich medrau cynnal a chadw llwybrau sy’n cymryd diwrnod yn unig i’w chwblhau.

Wrth ymgymryd â’r uned hon, byddwch yn:

  • Nodi draeniau a ffosydd wedi eu cau a’u hagor
  • Casglu ac arolygu sbwriel
  • Gwirio a glanhau offer cyn ei ddefnyddio ac ar ôl ei ddefnyddio

Ychydig o waith papur sydd ei angen, a’r cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ysgrifennu paragraff byr am eich profiad.

Cynhelir y ddwy uned hon yn achlysurol drwy gydol y flwyddyn – edrychwch ar ein gwefan, ymunwch â’n rhestr bostio neu cysylltwch i gael gwybod mwy. Os oes gennych grŵp a fyddai â diddordeb mewn cwblhau un o’r ddwy uned, cofiwch gysylltu ac fe wnawn ein gorau i fod o gymorth.