Aelodaeth Fusnes o Gymdeithas Eryri
Os ydych yn rhedeg busnes oddi fewn neu ar gyrion y Parc Cenedlaethol neu os yw eich busnes yn gweithredu yn Eryri gallwch helpu i warchod ei thirwedd unigryw a’i chymunedau drwy ddod yn Aelod Busnes o Gymdeithas Eryri.
- Dangos i’ch cwsmeriaid eich bod yn gofalu am ddyfodol Eryri ei pobol a’i thirweddau
- Rhoi cyfleoedd i chi a’ch gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth ar ddiwrnodau gwaith ymarferol
- Hysbysebu a chodi ymwybyddiaeth eich busnes ‘mysg pobl sy’n ymwybodol o’r pwysicrwydd cadwraeth amgylcheddol
- Helpu diogelu Eryri a’i nodweddau arbennig!
Mae Aelodaeth Fusnes yn cynnig:
- Cyhoeddusrwydd ar ein gwefan yn datgan eich aelodaeth
- Dolen i’ch gwefan, gyda disgrifiad byr o’ch busnes yn ein cyfeiriadur busnes
- Datganiad yn rhifyn nesaf ein cylchgraw
- 5 copi o’r cylchgrawn â chopïau ychwanegol ar gais
- Cyfle i ddefnyddio ein logo ar eich deunyddiau hyrwyddo.
Gweler ein Aelodau Busnes
Ymaelodwch fel Aelod Busnes o Gymdeithas Eryri rwan.
DS. Disgwylir i ein Aelodau Busnes gefnogi ein hamcanion elusennol. Ein prif nodau yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri er budd pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal, yn awr ac yn y dyfodol.