Lleoliad Tŷ Hyll

Mae Tŷ Hyll ar yr A5 rhwng Capel Curig a Betws y Coed, lle mae’r A5 yn croesi Afon Llugwy.

Tŷ Hyll, Capel Curig, Conwy
LL24 0DS

Ddim yn teithio mewn car? Gweler Trafnidiaeth amgen.

Mynediad am ddim

Ni chodir tâl i ymweld â Thŷ Hyll, yr Ystafell Wenyn neu’r ardd, ond fel elusen gofrestredig rydym yn croesawu cyfraniadau at eu cynhaliaeth.

Oriau agor

Gardd a choetir: ar agor bob dydd trwy’r dydd, trwy’r flwyddyn.

Ystafell dê Pot Mêl ac Ystafell Wenyn Mêl:

Rwan yn agor bob dydd o’r wythnos, o 10:30 y.b. tan 5 y.p.

Ymholiadau a chadw bwrdd yn ystafell dê’r Pot Mêl

Grwp o 8 neu ragor? Ffoniwch Tim ac Ayla Maddox ymlaen llaw i gadw bwrdd os ydych am fwyta yn yr ystafell dê:

 01492 642322
maddoxtim@hotmail.com
.

Ymholiadau cyffredinol am y tŷ, garddd a choetir


 07901 086850

 info@snowdonia-society.org.uk

Mynediad hygyrch

Braslun yw hwn. Gweler ein Datganiad Mynediad am fanylion llawn.

  • Rydym yn croesawu cŵn cymorth ymhob rhan o’r tŷ a’r tiroedd
  • Mae un lle parcio wedi’i neilltuo i ddeiliaid Bathodyn Glas yn y maes parcio uchaf
  • Nid yw’r giât brif fynedfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn; awgrymir i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ddefnyddio’r ail giât fynedfa tua 10 medr ymhellach i fyny’r isffordd
  • Gellir defnyddio ramp neu risiau i fynd i mewn i’r ystafell de ar lawr gwaelod y tŷ; mae mynediad gwastad ymhob rhan o’r ystafell de
  • Ymddiheurwn fod yr arddangosfa gwenyn mêl ar lawr uchaf y bwthyn trwy res o risiau cyfyng
  • Mae toiled sy’n cynnig mynediad i’r anabl yng nghefn yr adeilad, ar agor pan mae’r ystafell dê ar agor.