bee_hotel_ty_hyll

Gwesty gwenyn

Prosiect Gwenyn Tŷ Hyll

Mae Prosiect Gwenyn Tŷ Hyll yn gwella ymwybyddiaeth o’r creaduriaid rhyfeddol hyn, ac mae’n ysbrydoli’r to hŷn a’r to iau fel ei gilydd i wneud beth allant i’w helpu. Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at natur a pheillio cnydau er mwyn cynhyrchu’r bwyd byddwn yn ei fwyta, ond o ganlyniad i afiechydon, dulliau ffermio modern a’r defnydd o blaladdwyr a chwynladdwyr, mae pryfed peillio yn wyneb bygythiad.

Ystafell Gwenyn Mêl

iolo-williams-at-ty-hyll

Iolo Williams yn agor Tŷ Hyll ar ei newydd wedd yn 2012

Yn ein hystafell arddangosfa gwenyn mêl i fyny’r grisiau yn Nhŷ Hyll (uwchlaw’r ystafell de), gallwch ddysgu rhagor am:

  • gylch bywyd diddorol y gwenyn
  • ein prosiect magu mamwenyn sy’n cyflenwi mamwenyn lleol ar gyfer cychod gwenyn lleol
  • beth allwch chi wneud i gynorthwyo pryfed peillio yn eich gardd.

Y cychod gwenyn

Lleolir y cychod gwenyn yn y coetir yn ddigon pell o’r llwybrau troed. Bydd ein gwenyn yn ddigyffro os na fydd neb yn amharu arnynt.
Dewch i’w gwylio o bellter parchus; dewch ag ysbienddrych i gael golwg fanylach!

hives_ty_hyll_nrw

Cychod gwenyn (Delwedd: CNC)

Cyfranogwch

Lawrlwytho taflenni:

  • 27 Maw, 24
    Gwirfoddoli: Garddio yn Nhŷ Hyll

    Betws y Coed

    Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.