gardening_ty_hyll_nrw

Gwirfoddolwyr garddio bywyd gwyllt (Delwedd: CNC)

Mae Tŷ Hyll yn cynnwys 4 erw o goetir a gardd bywyd gwyllt hardd. Rydym yn dibynnu ar ein tîm o wirfoddolwyr gwych i gynnal a chadw’r gerddi a’r tir. Ymunwch â’n diwrnodau gwaith misol yn y coetir i helpu i ofalu am y lle arbennig hwn:

Ein tasgau gwirfoddoli:

  • cynnal a chadw’r coetir
  • garddio er lles bywyd gwyllt
  • gwneud gwaith ymarferol megis glanhau’r pwll neu docio mieri
  • cynnal arolygon o adar, anifeiliaid a phlanhigion
  • cynnal a chadw’r tiroedd i sicrhau y gall ymwelwyr eu mwynhau

Cysylltwch â Mary i ddarganfod rhagor neu i gofrestru fel gwirfoddolwr:

 01286 685498
mary@snowdonia-society.org.uk

 

  • 27 Maw, 24
    Gwirfoddoli: Garddio yn Nhŷ Hyll

    Betws y Coed

    Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.