Perchennog Tŷ Hyll yw Cymdeithas Eryri, sydd hefyd yn edrych ar ei ôl. Yn bencadlys y Gymdeithas ar un pryd, mae’r tŷ bellach yn gartref i ystafell de y Pot Mêl, a weinyddir yn annibynnol (Cliciwch ar y linc i weld y fwydlen a mwy. Gweler gwaelod y dudalen am fanylion cyswllt.) Galwch heibio am deisen neu ginio blasus! Tra byddwch yno gallwch ddysgu mwy am Gymdeithas Eryri a’n gwaith, prynu Hadau i Wenyn a gynhyrchir yn lleol, a gweld ein hystafell arddangosfa i fyny’r grisiau, lle cewch ddysgu mwy am wenyn mêl a’u gwaith peillio hanfodol.

 

Mae ein gardd a’n coedlan yn agored drwy gydol y flwyddyn. Codwch daflen o’r stand y tu mewn i’r giât ac ewch i fforio! Cynhelir yr ardd deras yn Nhŷ Hyll gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, a dewiswyd y planhigion yn arbennig i ddenu peillwyr. Chwiliwch am fainc yn yr haul a gwrandewch ar yr adar. Os byddwch yn ddistaw iawn efallai y cewch gipolwg ar lygoden bengron yn dwyn hadau sydd wedi cwympo o’r bwydwyr adar!

Mae’r coedlannau derw lled-naturiol hynafol yn ymestyn hyd at oddeutu pedair erw. Dyma goedwig hyfryd o dawel i dreulio hanner awr, neu hyd yn oed pum munud. Yn ogystal â derw digoes, mae yma goed bedw, ynn, criafol, celyn a chyll. Mae’r coed wedi eu gorchuddio â mwsogl ac mae llawredyn yn tyfu o’r canghennau. Yn hwyr yn yr haf a’r hydref rydych yn debygol o weld ein ffwng amrywiol yn tyfu ar ganghennau wedi cwympo a bonion coed. Piciwch i lawr at y pwll, lle byddwch o bosib yn ddigon ffodus i weld grifft llyffant neu lyffant. Cofiwch chwilio am y cychod gwenyn yn rhan ucha’r goedlan, a’r cylch o seddau sy’n fan dymunol i eistedd a mwynhau caneuon y gwahanol adar.

Rydym yn freintiedig gan fod yr aderyn mudol, y gwybedog brith, yn dychwelyd i goedlan Tŷ Hyll pob haf i nythu yma ac mae ystlumod lleiaf yn clwydo yn y tŷ.

Cofiwch alw heibio Tŷ Hyll i weld y tŷ rhyfedd ei hun a’r bywyd gwyllt neu i gael blas ar baned a theisen. Am ragor o wybodaeth am hanes y tŷ a’r hyn a welwch wrth grwydro’r goedlan, prynwch y llyfr yn y tŷ ei hun neu o’n siop ar-lein. Anrheg gwych!

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i ofalu am yr ardd a’r goedlan, mae cyfleoedd i wirfoddolwyr tuag at ddiwedd pob mis. Cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr i Gymdeithas Eryri yma lle byddwch yn gallu gweld calendr y Gymdeithas o ddigwyddiadau i wirfoddolwyr.

O bryd i’w gilydd cynhelir digwyddiadau eraill yn Nhŷ Hyll – rhywun am bwll-rwydo? Cysylltwch os hoffech ddod â grŵp draw. 

 

 

Mae ystafell de y Pot Mêl yn agored saith diwrnod yr wythnos, 10:30 – 16:00, am yr rhan fwyaf o’r flwyddyn. Bydd o ar gau dros wythnos y Nadolig, o Ddydd Sadwrn 23ydd o Ragfyr tan Ddydd Sadwrn 30fed o Ragfyr ac hefyd, ar gau am yr ail wythnos ym Mis Ionawr. (Bydd y coetir dal ar agor.) Cliciwch ar yr wyrdd er mwyn gweld eu gwefan, neu cysylltwch â Phot Mêl ar 01492 642322. 

Am faterion eraill yn ymwneud â Thŷ Hyll, cysylltwch â mary@snowdonia-socity.org.uk

  • 27 Maw, 24
    Gwirfoddoli: Garddio yn Nhŷ Hyll

    Betws y Coed

    Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.