plants_ty_hyll

 

Gardd natur a choetir Tŷ Hyll

Mae gardd bywyd gwyllt a choetir Tŷ Hyll yn cynnwys planhigion a ddewiswyd yn ofalus i ddenu adar a phryfed peillio megis gloÿnnod byw, gwyfynod, gwenyn a chacwn. Cânt eu rheoli’n annwyl ac yn organig gan wirfoddolwyr ymroddedig.

Golygfeydd, adar yn canu, gwenyn a brogaod

nuthatch_ty_hyllMae rhwydwaith o lwybrau a meinciau yn caniatáu i chi fwynhau blodau’r ardd a natur y coetir, a gwelir golygfeydd o Afon Llugwy a Moel Siabod trwy’r coed. Gwrandewch ar gân yr adar a siffrwd mamaliaid bychan a phryfed yn yr isdyfiant. Gwyliwch am wybedog brith yn nythu yn y gwanwyn, ystlumod yn y cyfnos, a brogaod, madfallod y dŵr a gweision y neidr o amgylch y pwll bywyd gwyllt.

Lawrlwytho ein map

map_ty_hyll

Cliciwch ar y map er mwyn ei weld yn faint llawn

Crwydrwch o amgylch gardd a choetir Tŷ Hyll gan ddilyn ein map hardd. Lleolir ein cychod gwenyn yn y coetiroedd yn ddigon pell o’r llwybrau; gallwch weld y gwenyn prysur wrth eu gwaith ond gochelwch rhag amharu arnynt.

 

Gallwch helpu!

Mae’r ardd a’r coetir yn cael eu rheoli’n gariadus gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig a mae croeso mawr i chi helpu.

Llwybrau cerdded lleol

Gallwch fforio i’r ardal o gwmpas Tŷ Hyll drwy ddilyn Llwybrau Cerdded Tŷ Hyll.

  • 27 Maw, 24
    Gwirfoddoli: Garddio yn Nhŷ Hyll

    Betws y Coed

    Ymunwch â ni yn Nhŷ Hyll hyfryd gyda’i gardd sy’n toddi’n naturiol i’r goedlan o’i chwmpas. Gallai’r tasgau gynnwys chwynnu, swyddi cynnal a chadw neu glirio llwybrau.