-
Mae Rhaeadr y Cwm, un o raeadrau mwyaf eiconig Eryri o dan fygythiad unwaith eto
Mae Cwm Cynfal yn lle sydd wedi ysbrydoli storïwyr, artistiaid a beirdd dros fileniwm. Mae’n un o raeadrau mwyaf mawreddog Eryri. Ond rwan mae’n cael ei fygwth unwaith eto gan gynllun trydan dŵr a fyddai’n golygu codi argae dros yr afon a dargyfeirio cymaint â 70% o’r dŵr o amgylch y rhaeadr.
Tair gwaith eisoes dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae cynlluniau wedi cael eu cyflwyno ar gyfer cynlluniau trydan dŵr yng Nghwm Cynfal. Tair gwaith maen nhw naill ai wedi cael eu gwrthod neu eu tynnu’n ôl. Ond rwan mae datblygwyr ar fin gwneud cais pellach ac maen nhw wedi bod yn rhedeg “ymgynghoriad o flaen cyflwyno cais” ac mae’r ymgynghoriad yma’n dod i ben ar y 24 Tachwedd.
Mwy -
Mae “Dwylo diwyd” Cymdeithas Eryri yn dathlu blwyddyn o waith gwirfoddol prysur mewn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cymdeithas Eryri Bydd Cymdeithas Eryri yn cynnal ei CCB ym Mhlas y Brenin ar 18 Tachwedd ac yn dathlu blwyddyn wyllt o weithio gyda gwirfoddolwyr i daclo rhai o’r bygythiadau mwyaf i Barc Cenedlaethol Eryri.
Mwy -
Diolch i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
Ein prosiect gwifoddoli Dwylo Diwyd: Mae Tyfu Caru Eryri wedi cael £249,940 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.
Mwy -
Croeso i Rory Francis, ein Cyfarwyddwr newydd
Rydym yn sicr y daw â’i gweledigaeth a dylanwad personol ar y ffordd orau y gall Cymdeithas Eryri wneud gwahaniaeth dros y degawd nesaf.
Mwy -
Agenda CCB 2023 Plas y Brenin
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i’n Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ym Mhlas y Brenin ar 18 Tachwedd 2023.
Mwy
Archebwch lle yma. -
Diolch i’n cefnogwyr yn ystod y penwythnos MaD
Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i wneud ein chweched Penwythnos Mentro a Dathlu yn llwyddiant!
Mwy -
Darganfyddiad annisgwyl
Erbyn hyn mae fy mhengliniau yn brifo wrth ddod i lawr. Ar ôl cerdded i fyny Cwm Glas Mawr, sgrialu ar draws Crib Goch a gwthio drwy’r torfeydd i gyrraedd copa’r Wyddfa (neu’n ddigon agos), rydw i’n falch o fod ar y daith yn ôl i’r car…
Mwy -
Apwyntiadau newydd
Rydw i’n falch iawn o adael i aelodau, gwirfoddolwyr a chefnogwyr wybod ein bod yn ddiweddar wedi recriwtio dau aelod newydd o’r staff.
Mwy -
Llinellau yn y tirlun
Rydym wrth ein bodd o gael ein gwobrwyo â £20,000 gan Raglen Grant Cymunedol y Grid Cenedlaethol! Rydym yn ddiolchgar ac yn hynod falch o fod yn cydweithio â nhw ar gangen cyffrous o waith: Llinellau yn y tirlun. Byddwch yn barod am ddigwyddiadau hyd yn oed fwy cyffrous gyda thema llinellol – o deithiau […]
Mwy -
Diolch i Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post
Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr o £25,000 gan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post, elusen ddosbarthu grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.
Mwy -
Plas Coch di-blastig?
Beth mae’n ei gymryd i westy fod yn rhydd o blastig? Darllenwch am daith Gwesty Plas Coch i gyrraedd eu nod: ‘Gallwn, byddwn ac rydym yn ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio bron pob dim!’
Mwy -
Nodwch y dyddiad: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2023
Dyma’ch cyfle i ymuno â’r tîm staff ac ymddiriedolwyr mewn diwrnod pleserus, dysgu am waith y Gymdeithas dros y flwyddyn ddiwethaf a chynlluniau ar gyfer y nesaf.
Mwy -
Penwythnos Mentro a Dathlu – Archebu ar agor!
Ymunwch â ni ar gyfer ein penwythnos MaD blynyddol, 8-10fed Medi yn Nant Gwynant am cyfle i ddod at ein gilydd yn Eryri ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli, digwyddiadau, bwyd, cerddoriaeth fyw a mwy!
Mwy -
Rydym yn recriwtio – Cyfarwyddwr
Oes gennych chi wybodaeth fanwl a chariad tuag at fyd natur gyda thystiolaeth gref o weithio a phrofiad o weithio mewn cadwraeth a gwarchod tirluniau a threftadaeth?
Allwch chi arddangos sut y byddech yn defnyddio hyn i arwain Cymdeithas Eryri yn y dyfodol, a’n helpu i ni ddatblygu’r rolau arbennig sydd gennym, gwneud gwahaniaeth mewn cadwraeth ymarferol, adfocatiaeth ac ymgyrchu?
Mwy -
Recriwtio Ymddiriedolwyr
Croeso
Mwy
Ydych chi’n teimlo’n angerddol dros Eryri a’i thirlun amrywiol, diwylliant cyfoethog, iaith a threftadaeth?
Yna byddem yn falch iawn pe baech yn ystyried ymuno â ni fel ymddiriedolwr a gwneud gwahaniaeth i’n gwaith. Hoffem greu amrywiaeth o fewn ein Bwrdd a’r peth pwysicaf yw angerdd a diddordeb yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol. Felly, beth bynnag yw eich cefndir, os ydych yn teimlo y gallwch wneud gwahaniaeth wrth adfer byd natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd yna fe all dod yn ymddiriedolwr i ni ein hysbrydoli un ac oll. -
Cry of the Curlew
Roedd y tro cyntaf i mi weld gylfinir yn hedfan heibio, wrth gynnal arolwg adar, yn gofiadwy. Dyma’r diweddaraf ar ein rhan gyda phroject Curlew LIFE yr RSPB.
Mwy -
-
Rydym yn recriwtio! Swyddog Ariannol
Rydym yn recriwtio! Swyddog Ariannol
Mwy
1 diwrnod yr wythnos, cyflog pro rata £30,884 -
Judith: hwyl fawr, a diolch am yr holl gacennau!
Y mis hwn, wedi mwy na deng mlynedd fel Swyddog Ariannol y Gymdeithas, rydym yn diolch o waelod calon i Judith Bellis ar ei hymddeoliad haeddiannol ac yn dymuno’r gorau iddi.
Mwy -
…a hwyl fawr gennyf i
Mae ein Cyfarwyddwr John Harold hefyd yn symud ymlaen – ar ddiwedd mis Mai. Mae’n symud, yn llythrennol, i borfeydd newydd wrth iddo fynd i weithio ar gadwraeth gwelltir llawn rhywogaethau gyda Plantlife. Dyma neges John i bawb sydd wedi bod yn rhan o hanes y Gymdeithas yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.
Mwy