Dwylo Diwyd

Ein rhaglen gadwraeth arloesol i wirfoddolwyr

Casglu sbwriel, yr Wyddfa

Mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn rhan o’r rhwydwaith sy’n cynnal ein Parciau Cenedlaethol. Mae ein tîm o wirfoddolwyr ymroddedig yn cyfrannu at raglenni tymor hir o waith hanfodol: cynnal llwybrau, rheoli rhywogaethau o blanhigion ymledol, clirio sbwriel, a rheoli cynefinoedd er budd bywyd gwyllt. Er bod lleihau difrod yn elfen hanfodol, mae’n fwy na hynny. Mae llawer o’n gwaith yn cynnwys gwella’n ymarferol ac mae ein rhaglen hyfforddi yn helpu i ysbrydoli ac ychwanegu at wybodaeth pobl a’u gwerthfawrogiad o Eryri, ei threftadaeth, ei chynefinoedd a’i bywyd gwyllt.

 

Ers ffurfio Cymdeithas Eryri dros 50 mlynedd yn ôl mae ein rhaglen gadwraeth ymarferol wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym yn cynnal sawl gweithgaredd bob wythnos ac yn galluogi cannoedd o bobl i gyfrannu miloedd o oriau o’u hamser tuag at warchod Eryri bob blwyddyn. Mae gwirfoddolwyr yn cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i Eryri yn ogystal ag archwilio a mwynhau rhai o ardaloedd harddaf a mwyaf arbennig y wlad. Hefyd, maen nhw’n magu profiad ymarferol, gwybodaeth, hyder ac ystod o fedrau sy’n hybu’r posibilrwydd iddyn nhw gael eu cyflogi.

Yn ddiweddar, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’n rhaglen wirfoddoli Dwylo Diwyd gyda’r wobr Cryn Gymeradwyaeth yng Ngwobrau Gwarchod Parciau 2018 y Parciau Cenedlaethol.

Gwirfoddolwyr yn cynnal llwybru ym mis Mehefin 2018

BETH MAE EIN GWIRFODDOLWYR YN EI DDWEUD:

“Mae aelodau’r Gymdeithas yn hynod o gyfeillgar, ac mae’n wych cyfarfod gwirfoddolwyr sy’n teimlo’r un fath.”

“Cyfle gwych i ddysgu amrywiaeth o fedrau a chyfarfod pobl ysbrydoledig o gyrff cadwraeth sy’n gweithio yn yr ardal.”

“Byddwch yn mynd gartref gyda theimlad o foddhad ar ôl i chi gyfrannu at gadwraeth tirlun mor bwysig yn y DU.”

Rydym yn gweithio gyda llawer o bartneriaid sy’n ffurfio tîm Eryri, yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ymddiriedolaeth Byd Natur Gogledd Cymru, Coed Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

4424
Oriau gwirfoddoli 2018 - 2019


Cysylltwch â Dan i ddarganfod mwy:

  dan@snowdonia-society.org.uk

01286 685498