hydro_cwm_glas_snowdonia2

JCBs yn brysur ar lethrau Cwm Glas, Hydref 2014

Ymgyrchu dros Eryri

Ers bron i 50 mlynedd mae Cymdeithas Eryri wedi ymgyrchu’n ddiflino i warchod Eryri, gan gadw llygad cyson am fygythiadau i’ch Parc Cenedlaethol chi.

Cynllunio

Rydym yn archwilio ceisiadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol – gwaith diflas a  chymhleth sy’n golygu treulio amser yn ei wneud, ond sy’n hanfodol i sicrhau gwarchodaeth tirlun, bywyd gwyllt, a mannau arbennig y Parc Cenedlaethol.

Polisi

Mae Cymdeithas Eryri’n cyfrannu i ymgynghoriadau gan awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, cwmnïau gwasanaethau a Llywodraeth Cymru ar feysydd polisi megis rheolaeth tir, cadwraeth, treftadaeth, cludiant, a chynllunio.

Agwedd bositif

Rydym yn ymgyrchu dros yn ogystal ag yn erbyn.  Pan welwn ddatblygiad a fydd o fudd i gymunedau lleol neu fyd natur byddwn yn gweithredu i’w gefnogi.

Cymryd rhan

Mae gan aelodau a chefnogwyr Cymdeithas Eryri ran hanfodol fel ein ‘llygaid a chlustiau’. Gallwch chithau gynorthwyo:

  • Cefnogwch ein gwaith ymgyrchu drwy ymaelodi neu gyfrannu rhodd
  • Os ydych yn bryderus am unrhyw beth sy’n peri risg i rinweddau arbennig Eryri, gadewch i ni wybod.

Cysylltu â swyddfa Cymdeithas Eryri

01286 685498
director@snowdonia-society.org.uk
 

Cyfrannwch nawr i gefnogi ein gwaith