Keeping Snowdon TidyWyddfa Lân…

… yw enw menter i gyflawni a chynnal lleihad sylweddol yn y sbwriel ar yr holl lwybrau o droed yr Wyddfa i’w chopa. Mae hyn yn cynnwys y meysydd parcio a gwaredu sbwriel yn gyfrifol, h.y. ailgylchu nid tirlenwi.

Cefnogir y fenter gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri, Rheilffordd yr Wyddfa, Caffi Hanner Ffordd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru’r Daclus, Grŵp Siarter Awyr Agored Amgylcheddol Gogledd Cymru, RAW Adventures, Marathon yr Wyddfa, Prifysgol Bangor drwy brosiect Arloesi Gwyrdd a Thechnolegau’r Dyfodol (GIFT), Canolfan Newid Ymddygiad Cymru a Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru (WISE).

Ar 11 Gorffennaf, fe wnaeth Cymdeithas Eryri gydweithio â thîm Wardeniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) a RAW Adventures i glirio’r sbwriel ar Lwybr y Mwynwyr o Ben y Pass i Lyn Glaslyn. Cafodd ein grŵp o 17 gwirfoddolwr eu tywys ar hyd y llwybr gan 3 Arweinydd Mynydda profiadol; Helen Pye (APCE), Ross Worthington (RAW Adventures) a Kin Choi. Fe wnaethom lenwi ugain o fagiau sbwriel duon mewn pedair awr, a daeth y rhan fwyaf o’r sbwriel o lannau’r llyn. Roedd y sbwriel yn cynnwys deunydd pacio bwyd a diod, dillad ac offer diogelwch mynydda.

Yr hyn oedd yn fwyaf amlwg am Lwybr y Mwynwyr i fyny at Lyn Glaslyn oedd taclusrwydd cyffredinol y llwyr, ar waethaf yr 20 bag o sbwriel y gwnaethom eu llenwi. O gofio ei boblogrwydd ymhlith ymwelwyr, mae’n amlwg fod tîm Wardeiniaid APCE Eryri yn gwneud gwaith rhagorol.

Yn ogystal â chasglu’r sbwriel, fe wnaethom fapio lleoliad a chyfanswm y sbwriel gan ddefnyddio cofnodwyr data GPS. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i sicrhau y gwnaiff ein gwaith lwyddo, oherwydd mae’n caniatáu i ni asesu maint y broblem. Mae Andrew Thomas (Prifysgol Bangor) wedi’n cynorthwyo i gynhyrchu’r map gwres hwn o’r sbwriel ar y llwybr)

“Ar ran Gymdeithas Eryri, hoffwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a gyfranogodd ac i’n tri Arweinydd Mynydda, Helen Pye, Ross Worthington a Kin Choi, am eu hamser a’u gwaith caled.”

Owain Thomas, Swyddog Prosiect (Anfon ebost i Owain)

snowdon_litter_heat_map

Map gwres yn dangos y ‘sbwriel a gasglwyd ar yr Wyddfa ar 11 Gorffennaf 2014