Cymdeithas Eryri

Sefydlwyd yn 1967, mae Cymdeithas Eryri, yn elusen cofrestredig, yn cydweithio â chymunedau, sefydliadau, busnesau  ag unigolion lleol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth…

Ein gweledigaeth…

… Parc Cenedlaethol lle mae ansoddau unigryw Eryri, sy’n sail i’r economi lleol, yn cael eu gwarchod gan gymunedau cryf sydd wedi’u haddasu i newid yn yr hinsawdd.

Ein cenhedaeth…

… gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal, yn awr ac yn y dyfodol.

Ein gwaith…

  • Cadwraeth ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth i Eryri, flwyddyn ar ôl blwyddyn: clirio sbwriel, cynnal a chadw llwybrau troed, rheoli rhywogaethau ymledol a gwella cynefinoedd ar gyfer natur
  • Ymgyrchu i amddiffyn nodweddion arbennig Eryri rhag bygythiadau megis datblygu amhriodol neu erydu o’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol
  • Gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru,  yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyrff cadwraeth eraill, yn ogystal â ffermwyr a thirfeddianwyr er lles pawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r lle anhygoel hwn.

Cysylltwch â director@snowdonia-society.org.uk â’ch pryderon am ddatblygiadau neu gweithgareddau eraill yn Eryri.

Cofnodion y CCB diwetharaf.

Cyfansoddiad Cymdeithas Eryri

Sut allwch chi ein helpu ni!