Beth yw ecosystem a pham mae’n bwysig?

Mae ecosystem yn enw torfol a ddefnyddir i ddisgrifio cymuned o organebau byw (megis planhigion, anifeiliaid a bacteria) ac elfennau anfyw eu hamgylchedd (megis creigiau, pridd a dŵr) yn rhyngweithio â’i gilydd.  Mae ecosystemau o’n cwmpas ym mhob man, o fariffau cwrel i laswelltiroedd i fforestydd glaw trofannol, ac rydym ni yn elfen fyw o ecosystemau.  Bydd rhyngweithio anweledig yn digwydd pob eiliad o bob dydd.   Os bydd rhywbeth yn digwydd i amharu ar gydbwysedd ecosystem, gall canlyniadau anrhagweladwy ddigwydd, ac ar brydiau, rhai trychinebus.

Beth yw Dull Gweithredu Ecosystem?

Mae dull gweithredu ecosystem yn gweithio i sicrhau “rheolaeth integredig tir, dŵr ac adnoddau byw sy’n annog cadwraeth a defnydd cynaliadwy (1).   Er bod dull gweithredu ecosystem yn swnio’n ddelfrydol, sut allwch chi ei weithredu yn y byd go iawn?  Sut allwch chi hyd yn oed ddiffinio lle bydd ecosystem yn dechrau ac yn gorffen?  Bydd ecosystemau yn rhyngweithio â’i gilydd, a bydd elfennau yn gadael ac ailddychwelyd i ecosystem benodol trwy’r adeg.

Yn ymarferol, gall fod yn anodd gweld sut allwn ni reoli adnoddau ar sawl lefel er mwyn bodloni’r holl randdeiliaid, ac mae hynny heb ystyried y rhanddeiliaid sydd heb lais: yr organebau eu hunain sy’n galw llecyn penodol yn gartref:

  • Sut allwch chi ddod ag amrywiaeth o berchnogion tir sydd â nodau a syniadau gwahanol ynghyd i gytuno i reoli eu tir mewn ffordd debyg?
  • Sut allwch chi leihau pori i warchod cynefinoedd rhostiroedd pwysig a dal i sicrhau fod ffermio yn broffidiol?
  • Ai plannu coed yw’r ffordd iawn o weithredu neu a ddylem ni adael i adfywio naturiol ddilyn ei drefn? A yw ecosystemau dirywiedig yn gallu adfywio hyd yn oed?

Mae’r cwestiynau yn ddiddiwedd… a dyna un rheswm pam mae rhai cyrff wedi ceisio lleihau’r cymhlethdod hwn trwy edrych am elfennau allweddol mesuradwy.  O ganlyniad, mae llawer wedi troi eu sylw at wasanaethau ecosystemau.

Gwasanaethau Ecosystemau

Mae gwasanaethau ecosystemau yn wasanaethau y gall ecosystem eu darparu.  Mae tueddiad naturiol i ni ganolbwyntio ar y gwasanaethau hynny y mae pobl yn eu hystyried yn werthfawr mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.  Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Pren
  • Bwyd
  • Dŵr
  • Pori
  • Atal llifogydd
  • Storio carbon
  • Eco-dwristiaeth
  • Hamdden
  • Pleser yn sgil gweld/gwybod bod anifail/planhigyn/cynefin yno a dim arall

 

Byddai rhai yn dadlau fod hwn yn llwybr peryglus i’w ddilyn, ac mae perygl o gyfiawnhau gorelwa ar ein hadnoddau naturiol.  Er gallai fod yn ddefnyddiol dan rai amgylchiadau i allu meintioli rhai gwasanaethau penodol a ddarperir gan ecosystem, nid yw hynny’n negyddu pwysigrwydd buddion eraill na ellir eu meintioli y gallai ecosystem iach eu darparu (i bobl ac i organebau eraill fel ei gilydd).  Hefyd, nid yw’n ystyried pa mor wydn yw ecosystem, h.y. faint o bwysau a ellir ei roi ar yr ecosystem heb ei hatal rhag gwneud ei holl waith?  Bydd erthyglau yn y dyfodol agos yn ystyried beth yw goblygiadau dull gweithredu ecosystem i Eryri, yng nghyd-destun gwaith ein gwirfoddolwyr.

 

 

Comments are closed.