Rhododendron: o safbwynt ecosystem

Mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn gweithio’n ddiflino ers blynyddoedd i frwydro Rhododendron ponticum yn Eryri, ac yn fwy penodol yn Nant Gwynant.  Beth sydd mor ddrwg am y planhigyn hwn â’i flodau pinc prydferth? Beth yw effeithiau’r planhigyn ei hun, a’n hymdrechion i’w reoli?

Beth yw Rhododendron?

Mae Rhododendron ponticum yn brysglwyn bythwyrdd mawr â blodau pinc neu biws, a’i gynefin yw rhanbarth Môr y Canoldir a rhannau o’r Dwyrain Canol.  Cafodd ei gyflwyno ym Mhrydain am y tro cyntaf yn y 18fed ganrif. Yn ystod oes Victoria, daeth yn boblogaidd fel planhigyn addurnol a chafodd niferoedd mawr ohono eu plannu mewn coetiroedd i roi cysgod i adar helwriaeth.  Yn yr ugeinfed ganrif, wedi cyfnod sylweddol o sefydlogrwydd ymddangosiadol, cychwynnodd ledaenu i fannau gwyllt ac mae bellach wedi cytrefu darnau enfawr o dir yng Ngorllewin Prydain.

Pam mae’n broblem?

Bydd Rhododendron yn lledaenu’n gyflym yma yn Eryri (mae’n ffynnu mewn hinsoddau mwyn a llaith!) ac yn creu canopi trwchus sy’n cysgodi’r tir sydd oddi tano. Mae gan hyn nifer o sgil effeithiau:

  • Nid yw llystyfiant cynhenid yn gallu cystadlu yn erbyn Rhododendron
  • Mae’r canopi trwchus yn atal golau rhag cyrraedd y ddaear oddi tano
  • Mae’r dail yn cynnwys cyfansoddion sy’n asideiddio cynefinoedd pridd a dŵr, ac maent yn wenwynig i lawer o organebau
  • Gall rhywogaethau o anifeiliaid sy’n ddibynnol ar blanhigion cynhenid gael eu niweidio hefyd
  • Mae’n bygwth ecoleg cynefinoedd sensitif megis coedlannau Derw’r Iwerydd ac mae’n arwain at golli nifer o rywogaethau hynod sensitif e.e. <http://www.brc.ac.uk/plantatlas/index.php?q=node/2514>
  • Mae’n un o organebau lletyol y pathogen ‘marwolaeth sydyn coed derw’
  • Mae’n wenwynig i’r rhan fwyaf o anifeiliaid sy’n pori, felly mae’n amhosibl ei reoli trwy bori
  • Gall feddiannau ardaloedd tir ffermio, ac effeithio’n economaidd ar ffermio

Twristiaeth

Mae Nant Gwynant yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr, felly mae’n ddefnyddiol ystyried cysylltiadau Rhododedron â thwristiaeth.  Yn hanesyddol, cafwyd canfyddiad positif ohono, a byddai llond bysys o ymwelwyr yn dod i edrych ar lethrau’r mynyddoedd wedi’u gorchuddio â blodau piws.  Mae’r diwydiant ymwelwyr yn hollbwysig yn Eryri o safbwynt economaidd, felly a oes gwrthdaro posibl rhwng y diwydiant ymwelwyr a chlirio Rhododendron?

Efallai fod ymwybyddiaeth o rywogaethau ymwthiol wedi cynyddu yn ystod blynyddoedd diweddar, ac efallai fod prosiectau ar raddfa fawr i’w rheoli wedi helpu i newid canfyddiad y cyhoedd o Rododendron (chwiliwch am ‘Rhododendron Eryri’ ar-lein).  Efallai fod rhai grwpiau o bobl sy’n dal i ddod i weld llethrau Eryri wedi’u gorchuddio â Rhododendron, ond mae agweddau’r cyhoedd yn debygol o fod yn newid yn gyflym.

Beth yw ein gwaith ni?

Byddwn yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i nodi ble a sut gall ein gwaith gyfrannu orau at reoli Rhododendron yn strategol.  Bydd ein gwirfoddolwyr yn mentro allan mewn tywydd garw ac yn defnyddio tocwyr a llifiau bwa i daclo’r planhigyn ymledol hwn.  Byddant fel arfer yn gweithio yn y rheng flaen, yn torri ac yn clirio cyn i gontractwyr wneud gwaith trin dilynol.  Bydd y gwaith dilynol yn cynnwys chwistrellu chwynladdwr ar yr aildyfiant o’r bonion, neu gellir targedu’r gwaith hwnnw trwy fewnsaethu chwynladdwr i mewn i’r bonion.

Mae rheoli rhododendron ar raddfa tirwedd gyfan yn ddrud.  Rhaid chwistrellu dro ar ôl tro dros amser i sicrhau rheolaeth dda, ac mae rhai safleoedd yn golygu fod angen technegau neu offer arbennig.  Mewn mannau, rhaid gwneud y gwaith gan ddefnyddio arbenigwyr ar fynediad â rhaffau, er enghraifft.

Mae’r rhaglen rheoli yn Nant Gwynant, y bydd ein gwirfoddolwyr yn cyfrannu ati, wedi costio miliynau o bunnoedd ac mae llawer iawn o waith i’w wneud eto.  A yw hynny’n gost neu fudd i’r economi leol?  Mae adfer iechyd bioamrywiaeth, cynefinoedd, dŵr a phridd yn swnio’n bositif, ac mae pla o rywogaeth ymledol bwysig yn amlwg yn rhywbeth negyddol.  Ond ni allwch chi gael y naill heb y llall: mae ystyried iechyd yr amgylchedd o fewn system o werth ariannol yn golygu fod risg o gael nifer o ddeilliannau rhyfedd!

 

 

  1. (Confensiwn Amrywiaeth Biolegol, 2015 https://www.cbd.int/ecosystem/).

 


 

Comments are closed.