Mae Steffan yn nhŷ tê Pen-y-Ceunant Isaf ar y lôn i fyny’r Wyddfa yn rhoi croeso cynnes erioed i ein gwirfoddolwyr ar ôl ddiwrnod o waith yn clirio sbwriel oddi ar yr Wyddfa. Mae’n bleser gennym ddatgan fod Pen-y-Ceunant Isaf wedi cymryd cam pellach i gefnogi ein gwaith trwy ddod yn Aelod Busnes.
Dewch â’ch byrbrydau eu hunain!
Mae Pen-y-Ceunant Isaf yn gaffi diymhongar i gerddwyr ar lethrau isaf yr Wyddfa ar Lwybr Llanberis. Mae’r caffi yn cynnig detholiad bach o fwyd er engraifft bara brith a chacennau tê, ond mae Steffan yn caniatau i chi ddod â’ch bocsus bwyd i mewn i’r caffi i’w bwyta gyda’ch diodydd.
“Rydych yn sicr o gael croeso cynnes bob amser, a’r cyfle i gael sgwrs â phobl ddiddorol o’r un anian. Rydym yn gwasanaethu tê a choffi, gwin cynnes sbeislyd, siocled poeth a detholiad o gwrw lleol,” meddai Steffan.
Cawl poeth i ein casglwyr sbwriel
Diolch enfawr i Steffan sy’n cynnig cawl poeth o flaen y tân i ein gwirfoddolwyr ar ôl ddiwrnod o waith yn clirio sbwriel oddi ar yr Wyddfa.