Mae RAW Adventures yn arwain y ffordd

climb-snowdon

RAW Adventures yn arwain y ffordd o ran cyfrifoldeb at yr amgylchedd.

Bydd Kate a Ross Worthington yn enwau cyfarwydd i unrhyw un sydd wedi cynorthwyo yn ystod diwrnodau gwaith Cymdeithas Eryri yn clirio sbwriel neu gynnal llwybrau troed ar yr Wyddfa eleni.  Mae eu busnes – RAW Adventures – yn cynnig gwasanaeth tywys grwpiau ac unigolion i ddringo’r Wyddfa a heriau eraill.

Mae ganddynt ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb ac maent newydd gyfrannu dros £320 i Gymdeithas Eryri mewn cydnabyddiaeth o’r gwaith a wnawn i ofalu am y mynydd eiconig a’i lwybrau troed.  Mae hynny yn £1 am bob unigolyn y maent wedi’i dywys i fyny’r Wyddfa eleni!

Diolch o galon i chi, RAW Adventures!

Comments are closed.