Yn eisiau: gwirfoddolwyr i Marathon Eryri

Snowdonia marathon runners

Yn eisiau: gwirfoddolwyr i Marathon Eryri, Sad 24 Hydref

Allwch chi helpu ar orsaf bwyd Beddgelert? Cysylltwch â netticollister@hotmail.com i gynnig help llaw.

Mae angen gwirfoddolwyr arnom i ddosbarthu diod a geliau yn ein gorsafoedd bwyd, cadw’r lle’n daclus a chefnogi’r holl redwyr anhygoel. Mae Marathon Eryri yn cefnogi’r gymuned leol a’r llynedd roddwyd £14,000 i achosion da lleol gan gynnwys rhodd hael o £500 at Gymdeithas Eryri.

Cysylltwch â netticollister@hotmail.com i gynnig help llaw. Yr ydych yn siwr o gael llawer o hwyl, heb sôn am becyn cinio, crys T a choster llechi.

Byddwn yn cynnal  y stondin bwydo ym Meddgelert ac yn chwilio am wirfoddolwyr o tua 11:00 tan 14:00. Mae’r ras yn cychwyn yn Llanberis am 10:30 a dylai’r ceffylau blaen ein cyrraedd erbyn 11:30. Ar wahân i ddosbarthu diodydd, ‘jels’ egni a bwydydd egni uchel eraill, byddwn yn gweiddi dros y rhedwyr a sicrhau bod yr ardal yn cael ei chadw’n daclus.

Mae rhagor o wybodaeth am y marathon ar gael ar Wefan Marathon Eryri.

Comments are closed.