Cefnogwyr Eryri, mae eich hangen chi arnom ni!
Rydym wedi ein gosod ar y rhestr fer ar gyfer y Big Give Christmas Challenge eleni gyda’n hymgyrch arfaethedig Adfer Byd Natur Eryri.
Mae argyfwng byd natur wedi ei ddatgan gan y llywodraeth. Mae Cymdeithas Eryri yn bwriadu cynnal 100 o ddyddiau cadwraeth yn 2022 fel rhan o’n hymateb i’r argyfwng.
Ond mae gwaith hanfodol i’w wneud: mae angen i ni godi £6500 mewn addunedau erbyn 27 Awst i gymhwyso ar gyfer rowndiau nesaf y cronfeydd. Ar ôl sicrhau’r addunedau yma gan ein cefnogwyr, byddwn yn gallu datgloi ariannu pellach i ddyblu cyfraniadau a wnaed yn ystod yr ymgyrch y mis Rhagfyr hwn.
Beth allwch chi ei wneud i’n helpu ni rŵan
Gallwch ystyried adduned o £100 neu fwy cyn dyddiad cau’r addunedau ar 27 Awst 2021. Drwy ddod yn Addunedwr rydych yn ymrwymo i gyfrannu y swm a addawyd. Bydd arian cyfatebol i’r addunedau yma’n cael eu rhoi gan y Big Give. Mewn ffordd, fe all pob £1 y byddwch yn ei haddunedu olygu £4 ar gyfer gweithredu dros gadwraeth yn Eryri.
Ein hymgyrch
Adferiad Byd Natur Eryri yw ein hymgyrch i roi cyfle i mwy o bobl adfer byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymateb i bwysau ymwelwyr yn Eryri.
Mae angen ein cymorth ar fyd natur. Os bydd ein hymgyrch yn llwyddiannus, rydym yn addo defnyddio’r arian i:
- Drefnu 100 o ddyddiau gweithredu cadwraeth yn 2022. Byddwn yn darparu’r hyfforddiant, offer, deunyddiau ac offer gwarchodol ar gyfer pob gweithgaredd.
- Ganolbwyntio ar weithrediadau sy’n adfer byd natur a mynd i’r afael â newid hinsawdd: gwarchod a gwella mawnogydd, gwlyptiroedd a choedlannau.
- Rhoi ymgyrch negeseuon cyhoeddus pwerus ar waith i godi proffil mawnogydd, eu bioamrywiaeth unigryw a’u rôl mewn storio carbon, a helpu pobl i gynorthwyo gyda’u gwarchod a’u hadfer.
- Ymwneud ag ysgolion yn Eryri ac o gwmpas yr ardal: rhoi cyfle i blant ddysgu sut i helpu byd natur.
Gadewch adduned heddiw:
Ewch i: https://www.thebiggive.org.uk/s/pledge?campaignId=a056900001wWzBwAAK