Nadolig llewyrchus i fyd natur Eryri diolch i ymgyrch codi arian

Nadolig llewyrchus i fyd natur Eryri diolch i ymgyrch codi arian

Mae cefnogwyr gwaith cadwraeth Cymdeithas Eryri wedi codi cyfanswm o £5,728 mewn addunedau a chyfraniadau drwy gyfrwng Her Nadolig y BigGive, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn.

Bydd cyfraniadau yn rhoi hwb i’n hymgyrch Adfer Byd Natur Eryri. Trefnwyd eisoes 100 o ddyddiau gweithredu cadwraeth yn 2022, wedi eu cefnogi gan ymgyrch wybodaeth i helpu mwy o bobl i wneud eu rhan gydag edrych ar ôl tirluniau a chynefinoedd Eryri.

Meddai Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu mynd y tu hwnt i’n targed o £3,200 erbyn diwrnod tri yr ymgyrch saith-diwrnod! Yn ystod y pandemig, rydym wedi gorfod newid o godi arian wyneb-yn-wyneb i wneud hynny ar-lein ac rydym yn ddiolchgar dros ben i’n cefnogwyr am eu parodrwydd i addasu.”

Ychwanegodd:

“Diolch arbennig am y cyfraniadau a gawsom gan ein Haelodau Busnes Ross a Kate yn RAW Adventures, tîm siopau Joe Brown, ac aelod Cymdeithas Eryri Derek Clarke, gan fod eu cyfraniad hael wedi ein cynorthwyo i fynd ymhell y tu hwnt i’n targed.”

Gwyliwch y gofod hwn ar gyfer ein hymgyrch codi arian ar-lein nesaf.

Comments are closed.