Cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri 2022

Cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri 2022

Rydym wedi lansio ein pumed cystadleuaeth ffotograffiaeth flynyddol ac yn gwahodd ffotograffwyr brwd i anfon eu hoff ddelweddau Eryri i mewn erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 27 Mehefin 2022.  

Dewisir deuddeg llun buddugol a fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghalendr y Gymdeithas ar gyfer 2023, sydd ar gael i’w brynu ar-lein o fis Medi ymlaen.

  • Gwobr gyntaf: Nwyddau Cymdeithas Eryri yn cynnwys bocs bwyd bambŵ, cwpan enamel, blanced picnic a het ‘beanie’ / tocyn rhodd o £50 i Felin Wlân Trefriw / calendr 2023 / aelodaeth Cymdeithas Eryri.
  • Ail wobr: Nwyddau Cymdeithas Eryri yn cynnwys crys-t, cap, bag gwrth-ddŵr / calendr 2023 / aelodaeth Cymdeithas Eryri.
  • Trydedd wobr: Nwyddau Cymdeithas Eryri yn cynnwys clytiau gwehyddu a bag siopa / calendr 2023 / aelodaeth Cymdeithas Eryri.

Gwahoddir ymgeiswyr i anfon un ffotograff sydd, yn eu tyb nhw, yn cyfleu Eryri orau. Cwblhewch y ffurflen isod erbyn 9 o’r gloch bore 27 Mehefin 2022. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Llun 18 Gorffennaf 2022. Gweler telerau ac amodau’r cystadleuaeth YMA.

I GYSTADLU CWBLHEWCH Y FFURFLEN ISOD:

Comments are closed.