Dychmygwch hyn … ond heb y peilonau!

Heddiw, mae un gornel drawiadol o Barc Cenedlaethol Eryri yn symud un cam yn nes at ddiwedd aflwydd y peilonau enfawr.

Mae’r Grid Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer derfynol o 4 safle i gael y prosiect Darpariaeth Effaith Gweledol gwerth £500m, a fydd yn arwain at rannau o linellau foltedd uchel yn cael eu claddu mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r rhan o Bortmeirion i Drawsfynydd ar y rhestr fer – oddeutu 7km o beilonau hynod ymwthiol sy’n dominyddu ac yn diraddio’r dirwedd.

Mae’r peilonau dDSC02985 - Compressedan sylw’n gorymdeithio ar draws aber Afon Dwyryd, yn dringo i fyny dyffryn trawiadol heibio Moel Tecwyn i Lyn Tecwyn Uchaf cyn croesi Ceunant Llennyrch â’i goetir hynafol.  Mae’r peilonau yn ymdeithio ers dros 50 mlynedd ar draws tirweddau eithriadol, golygfeydd syfrdanol a chynefinoedd bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol. Bellach, mae’r lle hwn yn barod i gael ei ryddhau a’i weddnewid.

Mae Cymdeithas Eryri yn falch iawn y bydd y dirwedd arbennig hon bellach yn mynd ymlaen i’r cam olaf o werthuso technegol manwl. Os bydd y prosiect yn digwydd, bydd ei effaith yn hollol weddnewidiol.  Ond rydym hefyd yn realistig ynglŷn â’r gwaith sydd ar ddod.

Mae claddu ceblau foltedd uchel yn y dirwedd amrywiol hon yn her dechnegol aruthrol. Hyd yn oed os bydd hynny’n bosibl, bydd y gwaith yn anodd ac yn hynod o ddrud – gallai gostio £20DSC03020 - Compressedm fesul cilomedr.  Mae llwybr y peilonau yn
croesi trwy gynefinoedd sensitif ar gyfer bywyd gwyllt, yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.  Bydd angen atebion sy’n cydbwyso’r buddion i’r dirwedd â’r risg i ecoleg hynod werthfawr.

Ar raddfa ehangach, gobeithiwn y caiff gwersi eu dysgu.  Er bod y prosiect claddu peilonau i’w groesawu, rydym yn gobeithio y bydd yn datrys un broblem mewn un cornel o Eryri. Dylai natur hynod heriol y gwaith amlygu gwrthuni penderfyniadau diweddar i osod rhesi o beilonau sy’n 160 troedfedd o uchder – milltiroedd lawer ohonynt – ar draws Ynys Môn a drwy Barc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd.  Yn sicr, mae gwneud gwaith fel hyn unwaith ac am byth a’i wneud yn iawn y tro cyntaf yn gwneud synnwyr.

Comments are closed.