Allech helpu?
Wrth dacluso’r swyddfa yn ddiweddar, fe wnaethom ganfod y poster hwn sy’n hysbysebu Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y Gymdeithas. Teimlad gostyngedig yw sylweddoli fod y weledigaeth oedd wrth wraidd y cyfarfod hwnnw a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin 1967 yn dal yn berthnasol hyd heddiw.
Mae hanner canfed pen-blwydd y Gymdeithas ar y gorwel, felly hoffem sicrhau fod y poster hwn ar gael fel tystiolaeth o’n hanes hir o ddyfalbarhau. Mae llawer iawn rhagor o ddeunydd hanesyddol yma yn y Caban (ac mewn mannau eraill, mae’n siŵr), ond mae’r mwyafrif ohono’n ddi-drefn ac felly nid yw’n hawdd ei ddefnyddio.
Rydym yn edrych am wirfoddolwr arbennig i ddatblygu prosiect archif. Y nod fydd didoli, gwerthuso, cofnodi a chyflwyno’r deunydd trwy ddulliau a fydd ar gael yn barhaol ac a fydd yn ddefnyddiol fel archif ac fel deunydd arddangos.
Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os ydych yn credu y gallwch gynorthwyo. Gallai fod yn brosiect diwrnod glawog gwych!
Ebost: info@snowdonia-society.org.uk
Ffôn: 01286 685498