Diolch i’n cefnogwyr yn ystod y penwythnos MaD

Diolch yn fawr iawn i bawb a helpodd i wneud ein chweched Penwythnos Mentro a Dathlu yn llwyddiant! Daeth sefydliadau partner, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff ynghyd i gyflawni amrywiaeth o dasgau ymarferol i helpu i ofalu am harddwch, rhywogaethau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri.

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb eich positifrwydd a’ch parodrwydd i’n helpu i warchod Eryri, felly diolch yn fawr am eich holl gefnogaeth!

Llwyddiannau’r penwythnos:

52 o wirfoddolwyr gyda chyfanswm cyfunol o 404 o oriau gwirfoddol  

  • Adeiladwyd 30 metr o lwybr troed newydd yng Nghwm Llan.
  • 4.3km o lwybr troed Watkin wedi’i gynnal. 
  • Casglwyd cyfanswm o 38kg o sbwriel.
  • Cynnal dros 3 acer o goetir. 
  • Lluniwyd 39 o flychau adar, 27 o flychau ystlumod a 2 flwch tylluan.
  • Eginblanhigion rhododendron wedi’u clirio o goedwig Craflwyn.
  • Dysgodd 23 o bobl sut i adnabod gwahanol hadau coed. 
  • Enillodd 9 o bobl achrediad cynnal a chadw llwybrau troed mynydd ac iseldir. 
  • Nodwyd 10 rhywogaeth wahanol o wyfynod. 
  • 186 oriau o weithgareddau teuluol.

      

Comments are closed.