Cyfleoedd i Wirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn

Hoffech chi ddysgu mwy am gacwn a sut i adnabod gwahanol rywogaethau? Hoffech chi helpu i ddysgu mwy am hanes poblogaethau o gacwn yn Eryri ac, yn wir, ledled gogledd Cymru? 

Gyda phoblogaethau rhywogaethau o gacwn yn prinhau ledled Ewrop, mae’r project Cofnodi Cacwn Cymru yn hynod o amserol. Ceir 23 o’r 24 rhywogaeth o gacwn y DU yng Nghymru; fodd bynnag, ychydig o gofnodi sydd wedi ei gwblhau mewn llawer ardal a dydy ambell i rywogaeth a safle ddim wedi eu cofnodi ers blynyddoedd.

Mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn yn cynnig sesiynau hyfforddi am ddim ar sut i adnabod cacwn a sut i roi monitro cacwn ar waith.

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i ddysgu am y peillwyr pwysig hyn ac maen nhw hefyd yn gychwyn project gwyddoniaeth dinasyddion 3-mlynedd pwysig. Bydd Cofnodi Cacwn Cymru yn eich hyfforddi ar sut i adnabod a monitro cacwn, fel eich bod yn gallu cyfrannu mewn dwy ffordd wahaol:

  • Cofnodi cacwn gartref neu unrhyw le arall y byddwch yn mynd iddo.
  • Monitro cacwn drwy gyfrwng ein cynllun gwyddoniaeth dinasyddion, BeeWalk. Bydd y medrau a ddysgwch yn yr hyfforddiant hwn yn eich galluogi i gyfrannu at dystiolaeth hanfodol sy’n helpu i sicrhau polisi a gwarchodaeth.

Mae’r hyfforddiant cyntaf yn cynnwys dwy sesiwn ar-lein i ddechreuwyr ar adnabod a chofnodi cacwn. Yn dilyn y rhain bydd cyfleoedd i ymuno â Clare Flynn (Swyddog Project Cofnodi Cacwn Cymru’r BCT) yn y maes i ymarfer medrau, yn cynnwys gwybodaeth ymarferol ar sut i sefydlu BeeWalk. Mae pob BeeWalk yn cynnwys adnabod a chyfrif cacwn ar daith gerdded misol ar hyd llwybr penodol rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ein galluogi i fonitro newid ym mhoblogaethau cacwn dros gyfnod o amser ac yn ein galluogi hefyd i sylwi ar brinhad poblogaethau mewn da bryd; bydd hefyd yn cyfrannu at fonitro tymor hir o newidiadau ym mhoblogaethau cacwn mewn ymateb i newid mewn defnydd tir a newid hinsawdd.

Mae’r hyfforddiant am ddim ac ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb – does dim angen gwybodaeth flaenorol!

Bydd ein dwy sesiwn Zoom AR-LEIN cyntaf yn cynnwys:

  1. Cyflwyniad i gacwn ac adnabod cacwn (rhywogaethau cyffredin) – dydd Mercher 29 Mawrth 6-8yh.
  2. Cyflwyniad i gofnodi cacwn a’r cynllun gwyddoniaeth dinasyddion BeeWalk – dydd Mercher 5 Ebrill 6-8yh.

Trefnir dyddiau maes yn dilyn y sesiynau Zoom.

Ewch i’n tudalen DDIGWYDDIADAU i archebu.

Os ydych yn awyddus i ymuno ond ddim ar gael ar y dyddiadau uchod, cysylltwch â jen@snowdonia-society.org.uk a gallwn drefnu i anfon recordiad o’r hyfforddiant atoch wedyn.

Cysylltwch â Clare.Flynn@bumblebeeconservation.org gydag unrhyw gwestiynau am y project.

Comments are closed.