Mae ein digwyddiadur gaeaf wedi ei gyhoeddi â sylw ar fynyddoedd Eryri. Dyma gyfle i’w dringo, clirio sbwriel oddi arnynt, deall eu daeareg ac eu ecoleg rhostir a helpu i’w gwarchod. Mae na gyfle i ddysgu eu mwynhau’n ddiogel ar ddiwrnod o hyfforddiant, Cyfeiriannu yn y Mynyddoedd, dan arweiniad Alun Pugh, ar 22 Tachwedd.
Croesewir aelodau a rhai sy ddim yn aelodau yn ddi-wahân ar ein digwyddiadau.
Gweler ein Digwyddiadur llawn, gan gynnwys yr rheeiny nad oedd wedi trefnu cyn i ni gyhoeddi’r raglen.
Printio rhaglen
(Llun: Paul Gannon)