Swydd Wag – Aelod – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Dyddiad cau 5ed Tachwedd. Mae’r Awdurdod fel arfer yn cynnal cyfarfodydd yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Manylion llawn

Disgrifiad o’r swydd

Beth fydd disgwyl i chi ei wneud?

Mae aelodau’r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigolion ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweiniad effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei bolisïau ac am sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, y fframwaith polisi a’r fframwaith ariannol a bennwyd ar ei gyfer.  Mae’n ddyletswydd ar aelodau i weithredu yn ôl y gyfraith, yn ddidwyll ac er lles gorau’r Parc Cenedlaethol bob amser, ac i ofalu i sicrhau nad yw eu budd preifat byth yn dylanwadu er gwaeth ar y budd cyhoeddus, na bod lle i amau hynny.

Prif Dasgau:

Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn effeithiol, yn arbennig wrth ddiffinio a datblygu ei drywydd strategol ac wrth bennu amcanion sy’n cynnig her;

Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl;

Sicrhau bod strategaethau’n cael eu datblygu ar gyfer bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol cyffredinol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru;

Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn;

Sicrhau bod gwaith y Parc Cenedlaethol o reoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau unrhyw gorff arall a noddir neu a gynhelir ganddo, yn rhoi gwerth am arian o fewn fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chyfrannu at y broses cynllunio corfforaethol;

Hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Manylion llawn

Comments are closed.