A ydych yn cael budd o olygfeydd gwych a gwylltineb Eryri?
Beth am roi rhywbeth yn ôl drwy gyfrannu at Gymdeithas Eryri neu gymryd rhan yn ein dyddiau gwaith gwirfoddoli?
Mae Eryri’n wynebu bygythiadau i leoedd arbennig fel y Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun a phroblemau cynyddol o sbwriel, ac angen eich help mwy nag erioed.
Ychwanegwch eich llais at y 4,500 o bobl sydd eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb i amddiffyn Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun. Neu ymuno â’n tîm ymroddedig o wirfoddolwyr i godi sbwriel, clirio Rhodendron a diogelu cynefinoedd hardd Eryri.
Mae Cymdeithas Eryri yn gweithio’n galed i gadw a diogelu eich Parc Cenedlaethol. Ymaelodwch nawr i gefnogi ein gwaith ac i roi rhywbeth yn ôl i Eryri.