Garlleg gwych Gareth yn ennill gwobr o £310 i Eryri

Ennillwyd y 6ed Her Tyfu Garlleg Moriarty Thomas gan Dr Gareth Jones o Dregarth, a mae o wedi dewis Cymdeithas Eryri i dderbyn y wobr o £310.

Mae’r her yn cael ei chynnal yn flynyddol yn y Douglas Arms, Bethesda, fel digwyddiad elusennol er cof am John Moriarty, a oedd yn fynyddwr brwd iawn. Cyflwynodd ei weddw, Mrs Myfanwy Owen, y £310 o elw i Dr Jones.

Dywedodd Dr Jones fod hi’n briodol i’r arian fynd at waith ymarferol Cymdeithas Eryri, megis cynnal llwybrau troed, clirio sbwriel a chyflawni tasgau cadwraeth.

Diolch i Dr Jones, i drefnwyr yr Her, y Douglas Arms a noddwyr y digwyddiad, Greenough Roofing.

presenting the trophy

Dr Gareth Jones yn derbyn y dlws gan Mrs Myfanwy Owen.

Comments are closed.