pan yn siopa yn Waitrose, Porthaethwy
Mae Cymdeithas Eryri wedi cael ei dewis gan Waitrose ‘Community Matters’ fel un o’r tri achos da i elwa o gyfran o’i rhodd £1,000 ym mis Gorffennaf.
Os ydych yn siopa yn Waitrose ym Mhorthaethwy, rhowch eich tocyn gwyrdd ym mlwch Cymdeithas Eryri, os gwelwch yn dda! Yn 2013, derbyniodd y Gymdeithas Eryri rhodd o £315 o dan y cynllun hwn.
Mae ‘na nifer o gynlluniau o’r fath gan archfarchnadoedd a siopau cornel a gallwch awgrymu achos da i dderbyn yr elw. Felly, ewch ati i enwebi Cymdeithas Eryri iddynt!
5c o dreth ar fagiau plastig
Mae’r holl siopau ac archfarchnadoedd lleol yn dewis achos da i dderbyn yr elw o’r taliad am fagiau plastig, a bydd yn newid yr achos hwn o dro i dro.
Yn 2013, rhoddodd Spar ychydig o dan £780 i Gymdeithas Eryri dan y cynllun hwn. Os ydych yn gofalu am Eryri, siaradwch â’ch siopau lleol a gofyn sut y gallwch ein henwebu.
Fel arall, os ydych yn gwybod am unrhyw gynllun elusen archfarchnad arall o’r fath, rhowch wybod i ni.
Nationwide ‘yn Lleol’
Beth am awgrymu Cymdeithas Eryri i fenterau cyfrannu elusenol Cymdeithas Adeiladu Nationwide:
-
Mae Lleol mawr yn galluogi cwsmeriaid i bleidleisio ar-lein ar gyfer elusen rhanbarthol gwahanol bob mis (fel a enwebwyd gennych chi) i ennill cyfraniad o £5,000.
-
Community Match – mae cwsmeriaid yn pleidleisio yn y gangen dros un o dri achosion lleol (a enwebwyd gennych chi) i ennill rhodd o £500.
Ydych chi’n gwybod am gynlluniau tebyg?
Os ydych yn gwybod am gynlluniau elusen tebyg, rhowch wybod i ni.