Her wedi achub 1/2 tunnell o CO2

A wedi codi dros £1,400 i’r Gymdeithas!

1af Mai a mae fy her wedi ei gwblhau. Ar ôl ymestyn fy nharged gwreiddiol o 2,000 i 3,000 can diod, ymestynais o eto i 3,620, gan gyrraedd y targed hwnnw ddoe – tystoliaeth trist o’r broblem sbwriel yng Ngwynedd. Mae ailgylchu’r holl ganiau hyn wedi achub dros hanner tunnell o CO2.

Cynnydd

Progress: target £2,000
70%
3620
can di casglu ac ailgylchu
549
kg o CO2 achubwyd
1402
£ 'di codi

Diolch i bawb…

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn barod sy neu wedi fy noddi. Mae cyfanswm y rhoddion dros £1,400 hyd yn hyn a mae’r addewidion nawdd yn dal i ddod mewn. Elw i gyd at waith Cymdeithas Eryri.

Sut i gyfrannu

  • ar JustGiving.com/CanSaveCarbon
  • ar dudalen Cyfrannu ein gwefan
  • drwy drosglwyddiad banc i: HSBC Llanrwst, Snowdonia Society/Cymdeithas Eryri: 80755230 40-30-18 (rhowch eich cyfenw a ‘caniau’ fel cyfeirnod)
  • â siec yn daladwy i ‘Cymdeithas Eryri’ i ein cyfeiriad yn Caban
  • ag arian parod yn ein swyddfa.
Scrap aluminium

61kg o alwminiwm sgrap yn barod i’w ailgylchu

£18 yw gwerth 3,620 can

Mae’r 3,620 o ganiau alwminiwm wedi eu gwerthu i fasnachwr metel sgrap i’w hailgylchu. 61kg oedd y pwysau terfynol – 6 kg mwy na’r disgwyl – 30c y kilo, felly cefais siec am £18.30 at yr achos.

Codwyr sbwriel cudd

Yn ystod fy her, yr oedd yn galonogol iawn i gyfarfod cymaint o bobl eraill sydd hefyd yn codi sbwriel, rhai yn agored, fel Geoffrey o Bontnewydd, a llawer sy’n hapusach i neud heb dynnu sylw at eu hunain.

Litter picker Geoffrey

Codwr sbwriel, Geoffrey

Oes angen sgîm ernes ar boteli a chaniau diod?

Mae adroddiad gan Cadwch Gymru’n Dachlus yn awgrymu y gallai sgîm ernes yn godi lefelau cyfraddau ailgylchu i 99{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98}. Mae Llywodraeth Cyrmu’n trafod sgîm ernes ar hyn o bryd.

Beth nesaf?

  • Os ydych yn nabod rhywun fydden cael ei ysbrydoli gan yr her hwn, rhannwch y dudalen hon
  • Neu beth am wneud yr yn fath yn eich ardal eich hun?
  • Annogwch Gyngor Gwynedd i wahanu ac ailgylchu’r sbwriel maent yn pigo i fyny
  • Ymunwch â diwrnod codi sbwriel Cymdeithas Eryri
  • Os ydych yn bryderus am sbwriel plastig morol, cymerwch Her Plastic y Marine Conservation Society
  • Ac i orffen, be gawn ni neud i newid yr ymarfer o ollwng sbwriel??

Yn ei godi a balchder,
Frances
Blog CodiCanArbedCarbon
info@snowdonia-society.org.uk

 

Comments are closed.