Blog Codi Can, Arbed Carbon

Eitemau newyddion sy’n gysylltiedig â her Codi Can, Arbed Carbon Frances a’i tharged i:

  • godi ac ailgylchu 2,000 o ganiau diod sy wedi eu taflu, cyn diwedd mis Ebrill
  • gael nawdd o 1c/can gan 100 o bobl
  • godi £2,000 i helpu i gadw Eryri’n wyllt ac yn hardd
  • arbed 270kg o CO2.

 

  • Her wedi achub 1/2 tunnell o CO2

    a dros £1,400 wedi codi i'r Gymdeithas hyd yn hyn. Mae her Codi Can Arbed Carbon wedi cwblhau a mae Frances wedi ymestyn ei tharged i 3,620 can, gan achub hanner tunnell o CO2.

  • Cyngor Gwynedd yn gwastraffu tunelli o CO2…

    ...drwy dirlenwi sbwriel caniau diod. Gallai mesur siml sy'n caniatáu i lanhawyr stryd wahanu caniau a gweddill y sbwriel achub cymaint â 180 tunnell o CO2 bob blwyddyn.

  • Ymgyrch caniau ar Radio Wales

    Wrth i Frances agosáu diwedd ei hymgyrch casglu sbwriel alwminiwm, mae hi wedi egluro ei rhesymau am ei hymdrechion ar raglen Radio Wales 'Country Focus'.

  • Gormod o sbwriel. Targed ‘di daro mis yn fuan 

    2,000 o ganiau diod 'di 'codi a 270kg o CO2 'di hachub! A yw'n newyddion da neu'n newyddion drwg fod Frances wedi taro ei tharged Codi Can, Arbed Carbon mis yn fuan? Ydych chi wedi ei noddi eto?

  • Ydych chi’n arwr sbwriel?

    Trwy fy her CodiCanArbedCarbon, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n gwella eu bro lleol drwy godi sbwriel. 'Sgynnoch chi hanes sbwriel i rannu? Hoffem ei glywed.

  • Peiriant ad-dalu

    A fyddech yn cefnogi talu ernes ar boteli a chaniau diod?

    Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Chyfeillion y Ddaear Cymru wedi galw am gyflwyno system talu ernes orfodol ar gynwysyddion diodydd er mwyn lleihau sbwriel a gwella cyfraddau ailgylchu. Synaid call!

  • 1,029 can wedi achub = 142kg o CO2 wedi arbed

    Mae Frances dros hanner ffordd at ei tharged o 2,000 can diod, sy'n golygu bod hi wedi arbed 142kg o CO2. Ydych chi wedi ei noddi eto? Gallech ddarllen rhagor am sbwriel, caniau diod a chynhesu byd eang ar ei blog.

  • Sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?

    Bydd fy her sbwriel alwminiwm CodiCanArbedCarbon yn achub 30kg o ganiau diod alwminiwm. Ar ôl i’r caniau hyn gael eu hailgylchu byddaf wedi arbed dros ¼ tunnell o CO2. Ond sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?

  • Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel

    Ar daith siopa i’r dre’n ddiweddar ’nes i basio tomen gas o sbwriel wedi ei gollwng wrth ymyl bin sbwriel. Er fy nghywilydd, nes i gerdded o’i chwmpas hi. Be’ ’naeth fy atal rhag pigo’r sbwriel i fyny a'i roi yn y bin?

  • Sut i gael 14 panad o 1 can diod

    Os welwch chi gan diod, cofiwch ei godi a’i ailgylchu! Felly gallwch arbed digon o ynni i ferwi dŵr ar gyfer 14 panad o de! Pam mae cymaint ohonynt yn mynd i wastraff?

  • Clirio sbwriel. Arbed carbon. Noddwch fy her caniau alwminium!

    "Dwi am gasglu 2,000 o ganiau diod aluminium yn ac ar gyrion Eryri. Lleihau sbwriel, arbed carbon, codi arian i waith Cymdeithas Eryri. Plis noddwch fi"