Gormod o sbwriel. Targed ‘di daro mis yn fuan 

2,000 o ganiau ‘di ‘codi a 270kg o CO2 ‘di ‘hachub!

Mae teimladau cymysg gennyf am daro fy nharged o 2,000 can diod, gan y byddai’n well o lawer gennyf cael trafferth ei gyflawni. Felly a yw’n newyddion da neu’n newyddion drwg mod i wedi taro’r targed Codi Can, Arbed Carbon mis yn fuan?

2,174 can diod alwminiwm yw’r cyfanswm yn awr, gan arbed dros 300kg o CO2. Mae’r casglu diweddar yn cynnwys ffordd uwchben Clynnog Fawr (73 can), Lon Eifion (103) a’r briffordd yng Nghwm y Glo (141).

Os ydych chi wedi cyfrannu’n barod neu wedi addo nawdd, DIOLCH YN FAWR IAWN! Byddaf yn cysylltu â rhai sydd wedi fy noddi cyn bo hir, neu gallwch gyfrannu nawr (gweler isod). Os bydd yr holl addewidion o nawdd yn cael eu derbyn, bydd y cyfanswm a godwyd hyd yn hyn at Gymdeithas Eryri yn £930 cyn adio Cymorth Rhodd.

Alla i gyrraedd targed newydd?

Gan fod arbed carbon yn gymhelliant allweddol, ni fyddaf yn fodlon gyda 2,000 can. 3,000 can yw fy nharged newydd (bydd yn arbed dros 400kg o CO2) erbyn diwedd mis Ebrill. Wrth gwrs mae croeso i noddwyr ymestyn eu nawdd yn ôl y targed newydd – byddai hynny’n wych, a bydd yn sbardun i fi barhau i pigo’r caniau ‘na i fyny!

Ddim yn rhy hwyr i gyfrannu

Os nad ydych eisoes wedi fy noddi neu cyfrannu, gobeithio y newch. Mae elw i gyd at Gymdeithas Eryri a’i gwaith yn cadw Eryri’n wyllt ac yn hardd.

Gallech gyfrannu drwy unrhyw un o’r dulliau canlynnol:

  • ar JustGiving.com/CanSaveCarbon
  • ar y dudalen gyfrannu ar ein gwefan
  • drwy drosglwyddiad banc i: HSBC Llanrwst, Cymdeithas Eryri / Cymdeithas Eryri: 80755230 40-30-18 (rhowch eich cyfenw a ‘caniau’ fel cyfeirnod)
  • drwy siec yn daladwy i ‘Cymdeithas Eryri’, anfonwyd at ein cyfeiriad yn Caban
  • mewn arian parod yn swyddfa Gymdeithas Eryri.

Diolch!

Darllenwch fy mlog sbwriel/carbon/alwminiwm

Yn olaf, ydych chi wedi gweld fy mlog CodiCanArbedCarbon? Mae’r themau’n cynnwys sbwriel, alwminiwm a chynhesu byd-eang, ee Sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych? a Fyddech yn cefnogi ernes ar ganiau a photeli diod?

Frances
Blog CodiCanArbedCarbon
info@snowdonia-society.org.uk


 

Comments are closed.