’Dych chi ddim ar ben eich hun. Dywedwch eich stori wrthym.
Trwy fy her CodiCanArbedCarbon, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n gwella eu bro lleol drwy godi sbwriel, er bod rhai ohonynt yn swil am y peth a dim ond yn codi ysbwriel pan does neb arall o gwmpas. (Gweler fy narn blog Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel.)
Dyma rai o’r arwyr sbwriel lleol yr wyf wedi cyfarfod:
- Geoffrey sy’n clirio sbwriel bob dydd ym Montnewydd, gyda’i gi Joe: “Roedd fy hoff daith gerdded wedi ei difetha gan sbwriel, felly penderfynais wneud rhywbeth am y peth.”
- Mae Madeline yn codi sbwriel môr tra’n nofio. “Rwy’n ei storio yn yr unig lle sgennyf i, sef tu mewn i fy siwt nofio!”
- Mae Carys, Beryl, John a Sue yn codi sbwriel o’r ffordd ger eu cartrefi yn fy mhentref
- Mae Cordelia a’i ffrindiau yn clirio sbwriel ym Mhenllyn (pen gorllewin Llyn Padarn)
- Twm sy’n clirio’r sbwriel o iard yr eglwys
- Adam yn Llanberis: “Tasai ni i gyd yn gwneud ychydig, ‘sai ddim problem. Cofio mynd â bag sbar bob tro yw’r broblem fwyaf. “
- Owain a gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri’n casglu sbwriel sy’n cadw’r Wyddfa’n Lân a gweithio i newid ymddygiad sbwriel
- RAW Adventures sy’n arwain tîm casglu sbwriel yn Gwir Her y 3 Chopa
- Caru ein Llyn sy’n codi sbwriel yn rheolaidd o amgylch Llyn Padarn
- Cadwch Gymru’n Daclus sy’n ymgyrchu, yn addysgu a chefnogi mentrau casglu sbwriel
- Pawb sy wedi cael eu hysbrydoli i godi caniau diod alwminiwm mewn ymateb i fy sialens CanSaveCarbon.
Beth yw eich stori?
Daliwch ati! Bydd codi sbwriel yn ysbrydoli pobl eraill i wneud yr un fath. A bydd taflwyr sbwriel yn meddwl dwywaith cyn gollwng eu gwastraff – mae sbwriel yn denu sbwriel, wedi’r cyfan.
Felly, os byddwch yn casglu sbwriel, beth yw eich stori? Beth yw eich cymhelliant? A ydych yn falch neu’n bryderus am gael eich gweld?
Noddwch fy her CodiCanArbedCarbon
A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi ar fy her i godi ac ailgylchu 2,000 o ganiau diod, a felly arbed 270kg o CO2. Elw i gyd at Gymdeithas Eryri a’i gwaith cadwraeth yn y Parc a’i gwaith ymgyrchu i gadw Eryri’n wyllt ac yn hardd.
Yn ei godi a balchder,
Frances
Blog CanSaveCarbon
info@snowdonia-society.org.uk