Yr Wyddfa: Y Mynydd Byw

Yr Wyddfa: Y Mynydd Byw

Arweiniad cludadwy newydd yn datgelu rhywfaint o fyd natur arbennig yr Wyddfa.

Mae Cymdeithas Eryri, ynghyd â’i phartneriaid, wedi cynhyrchu adnodd addysgiadol newydd sy’n rhoi manylion rhai o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau rhyfeddol a welir ar yr Wyddfa, un o’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol gwerthfawr.O ddaeareg i flodau gwyllt, mae’r ‘map’ natur dwy-ochr yn darparu cyflwyniad lliwgar i fyd natur yr Wyddfa a gellir ei gludo’n hawdd mewn poced wrth grwydro’r ardal.

Meddai John Harold, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri:

“Mae’r Wyddfa yn gallu bod yn fynydd prysur iawn. Bydd yr arweiniad newydd hwn yn helpu pobl i dreulio amser yn gwerthfawrogi’r amgylchedd mynydd pwysig a bregus hwn. Rydym yn annog ymwelwyr i droedio’n ysgafn a gwylio’r amrywiaeth tawel o fwsoglau, blodau gwyllt, pryfed ac adar yr ydym yn rhannu’r mynydd gyda nhw. Byddai’n wych pe bai hwn yn cyfoethogi’r profiad o’r Wyddfa a’r byd natur sydd wedi cartrefu yma.”

Mae’r adnodd ar gael ar-lein YMA a bydd ar gael hefyd i wirfoddolwyr y cynllun Caru Eryri 2021. Yn ogystal, bydd ar gael mewn rhai o ganolfannau croeso’r Parc Cenedlaethol. Os hoffwch chi gopi caled neu becyn o gopis ar gyfer grŵp o ddysgwyr e-bostiwch ein Swyddog Ymgysylltu Claire: claire@snowdonia-society.org.uk

Mae tîm Cymdeithas Eryri yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Partneriaeth yr Wyddfa, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru a mewnbwn gan arbenigwyr unigol i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Comments are closed.