Aur o dan yr eithin

Aur o dan yr eithin

gan Owen Davies

I lawer ohonom, mae cribau uchel a chymoedd cudd y Carneddau yn darparu dihangfa arallfydol o’n bywydau sy’n gynyddol drefol. Efallai y bydd yn syndod, felly, darganfod bod y stori sydd ynghlwm wrth y llechweddau yma’n datgelu sawl cyfnod o weithgaredd dwys gan bobl. O’r henebion Neolithig ar lwyfandir y copa a’r clytwaith o ffiniau caeau o’r Oes Efydd sy’n frith ar draws y bryniau i’r pantiau o lechi a naddwyd o’r berfeddwlad, mae’n amlwg bod y Carneddau’n cynrychioli un o’r tirluniau archeolegol mwyaf toreithiog yng ngwledydd Prydain.

O ganlyniad i ganrifoedd o glirio tir a ffermio datblygodd porfeydd byr yr ucheldir sy’n hoff gan adar fel y frân goesgoch ar gyfer bwydo ar infertebratau’r pridd. Fodd bynnag, mae ymlediad eithin ledled y safleoedd hyn yn bygwth presenoldeb y rhywogaeth brin hon ac archeoleg y Carneddau. Mae hyn yn digwydd oherwydd bod eithin yn lleihau tiroedd lle mae’r frân goesgoch yn chwilota am fwyd ac yn creu cynefin delfrydol ar gyfer cloddio gan anifeiliaid sy’n tanseilio strwythurau archeolegol. Nod clirio llystyfiant fel rhan o Bartneriaeth Tirlun y Carneddau yw gwarchod safleoedd archeolegol a gwella cynefin chwilota am fwyd y frân goesgoch drwy gynyddu amrywiaeth cynefin, yn ogystal â chynnwys cymunedau lleol mewn gwaith cadwraeth a threftadaeth leol.

Gwirfoddolwyr a phartneriaid yn clirio eithin o Moel Faban; Owen Davies.

Ar droad y flwyddyn cafodd y project gychwyn gwych pan ddaeth gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB Cymru, APCE a Chymdeithas Eryri at ei gilydd ar Moel Faban i ddadorchuddio gweddillion anheddiad cytiau caerog ar ei lethr gogledd orllewinol. I’r anwybodus, mae’n bosibl bod y safle’n edrych fel pentyrrau o bridd a cherrig, neu’r pentyrrau o lechi gwastraff o gwmpas. Yn ffodus, roedd archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Kathy Laws, ar gael i’n helpu i adnabod yr anheddiad amgaeëdig o Oes yr Haearn, sy’n cynnwys chwe chwt sy’n ymddangos fel llwyfannau wedi eu terasu ar ochr llethr y grib. Cliriwyd eithin o gwmpas y cytiau drwy dorri mor agor i’r ddaear â phosib gyda thorwyr pwrpasol. Llwythodd y gwirfoddolwyr yr eithin i fagiau rwbel nes oedden nhw’n orlawn a’u llusgo i lawr i fan diogel i’w losgi. Bu’r dull hwn o gael gwared â’r eithin hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer tostio malws melys, y ffordd berffaith o ddod â diwrnod o waith i ben. Yn bresennol hefyd roedd tîm BBC Countryfile, felly os hoffech weld gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri wrth eu gwaith, cofiwch wylio rhaglen Countryfile ddydd Sul nesaf, neu nodwch eich dymuniad i gymryd rhan yn ein cyfleoedd i wirfoddolwyr ar Better Impact.

 

Dysgu am archeoleg Moel Faban; Owen Davies.

Er bod pob cenhedlaeth wedi gadael ei chraith amlwg ei hun ar y Carneddau, mae eu pwysigrwydd symbolaidd ar gyfer cymunedau lleol wedi parhau’n gyson. Felly, mae’n hanfodol i ni a’n hynafiaid i helpu i warchod eu hanes.

 

Owen Davies, Swyddog Project – Cymdeithas Eryri

 

Comments are closed.