Gwrychoedd: y pwythi yn y clytwaith.

Wrth i ni symud trwy’r tirlun mewn car, ar feic neu ar droed, mae’n hawdd gwibio heibio’r gwrychoedd sy’n cadw cwmni i ni ledled y daith; dydyn ni prin yn sylwi ar eu presenoldeb di-derfyn. Fodd bynnag, i fywyd gwyllt, mae’r stribynnau pigog yma o goedlan yn darparu rhwydwaith megis traffordd ac yn cysylltu darnau o gynefin a fyddai fel arall mewn perygl o ddiflannu o’r tir. I rywogaethau o loynnod byw yn unig, mae gwrychoedd yn darparu lloches rhag y gwynt sy’n eu galluogi i grwydro’r dirwedd. Gwrychoedd yw’r pwythi hanfodol sy’n cynnal systemau naturiol a dynol yng nghlytwaith ein cefn gwlad. 

O ganlyniad i fentrau’r llywodraeth i ddwysau cynhyrchiant bwyd yn dilyn yr ail ryfel byd dinistriwyd dros 50% o’n gwrychoedd. Dyma ergyd drom nid yn unig i fioamrywiaeth ond hefyd i dreftadaeth ein tirlun, gan fod gwrychoedd yn gallu bod yn filoedd o flynyddoedd oed; o dan rai ohonyn nhw mae ponciau a luniwyd yn yr Oes Efydd neu hyd yn oed weddillion y goedlan wyllt wreiddiol y lluniwyd caeau ohoni gan Brydeinwyr cynnar.

Ochr yn ochr â’n gwirfoddolwyr ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, mae Cymdeithas Eryri wedi bod yn cydweithio gyda phedwar ffermwr lleol ar Gynllun Rheolaeth Gynaliadwy Dinas Mawddwy i gynyddu bioamrywiaeth, adfer mawnogydd a hyrwyddo’r llwybrau cerdded yn yr ardal er mwyn cynyddu dealltwriaeth a mwynhad y gornel gudd hon o’r Parc Cenedlaethol. Rydym eisoes wedi plannu 723m o rywogaethau’r gwrych fel rhan o’r cynllun; gwaith a fydd, gobeithio, yn darparu llu o fuddion ar y cyd i bobl a bywyd gwyllt mewn canrifoedd i ddod.

Gwirfoddolwyr yng nghanol harddwch gwyllt Dinas Mawddwy, lle mae rhew a dŵr wedi llunio cymoedd agored a llydan a cheunentydd serth, a lle mae chwareli segur a chribau creigiog yn amlwg fel asgwrn cefn dinosoriaid.

Yn gynharach eleni ar fferm Pennant, Llanymawddwy, plannwyd 530 o egin goed gan ein gwirfoddolwyr i greu 76m o wrych amrywiol wrth ddefnyddio cyfuniad o rywogaethau tal o goed a drain trwchus – gyda bonion trwchus o rosod gwyllt, mwyar a blodau gwyllt – i gysylltu’r clytwaith o goed llydanddail a grewyd eisoes ar hyd glannau’r afon Dyfi. Gobeithir y bydd drain duon a gwynion a choed crabas yn denu ystod o beillwyr ac infertebratau a fydd, yn eu tro, yn darparu bwyd ar gyfer adar ac ystlumod. Yn y cyfamser, bydd rhywogaethau mwy fel derw a chyll o fudd i gynhyrchiant amaethyddol wrth weithredu fel lloches i anifeiliaid rhag y gwynt, cynyddu graddfeydd goroesi ŵyn yn ystod y gaeaf a darparu cysgod i wartheg godro yn yr haf sydd, yn ei dro, yn cynyddu cynhyrchiant llaeth.

Plannwyd 100 o goed hefyd i helpu i sefydlogi llethr serth uwchben y fferm, gan helpu i leihau erydiad pridd gan ddŵr a gwynt yn ogystal â lleihau risg llifogydd lleol ar y fferm. Mi fyddwch chi a fi yn elwa hefyd, gan y bydd yr amrywiaeth o liw ac ansawdd o’u canghennau, eu dail a’u blodau yn cael effaith drawiadol ar y tirlun ac yn ychwanegu at harddwch gwyllt yr ardal.

Mae gwrychoedd yn cynnig cyfle unigryw i gynyddu ein bioamrywiaeth a’n gwytnwch yn erbyn newid hinsawdd wrth gefnogi ein ffermwyr yr un pryd. Bydd eu newid graddol o flagur a blodau i aeron yn ychwanegu at dinc a thôn y tirlun y gallwn i gyd elwa ohono.

Owen Davies – Swyddog Project a Cai Bishop-Guest – Cynorthwywyydd Cadwraeth – Cymdeithas Eryri.

Comments are closed.