Gorphwysfa neu Mallory’s?

Pen y Pass Youth Hostel

Beth yw eich barn am yr enw newydd?

Mae Hostel Ieuenctid hanesyddol Pen y Pass wedi cael newid ei enw o Gorphwysfa i Mallory’s.

Yn rhyifyn y gwanwyn o ein cylchgrawn rydym wedi cynnwys erthygl gan Duncan Brown o Len Natur am y newid hwn. Mae’r erthygl isod, neu gallwch ei ddarllen yn ein cylchgrawn ar-lein.

Os nad ydych yn fodlon am yr enw newydd beth am gysylltu â Hostel Ieuenctid Pen y Pass i adael iddyn nhw wybod?


Fesul blewyn….

gan Duncan Brown www.llennatur.com
(Wedi ei gyhoeddi am y tro cyntaf yng Nghylchgrawn Gwanwyn 2016 Cymdeithas Eryri)

Pam fod pobl yn teimlo mor gryf am enwau lleoedd? Bu’n rhaid i mi feddwl am y cwestiwn yna o’r newydd yn ddiweddar pan dynnwyd fy sylw fel Golygydd Prosiect Llên Natur at enghraifft o newid enw mewn lle amlwg iawn yn y Parc. Ysgrifennodd mynyddwr lleol Maldwyn Peris atom yn bwrw ei fol i bob pwrpas am y newid diweddar a fu ar yr hostel ieuenctid a’r caffi “Gorffwysfa” ym Mhen y Pass. Fe’i newidwyd yr enw i “Mallory’s”.

Cefais fy sodro yn y fan a’r lle gan y cenadwri hwn. Ond pa hawl sydd gen i na neb arall i gwyno am newid enw caffi preifat mewn lle mor gyhoeddus? Serch hynny, cwyno a wnes a chwyno a wnaf ond rhaid cloriannu’r dadleuon.

Diddordeb enwau lleoedd i’r amgylcheddwr yw’r cyfoeth o wybodaeth sydd ynghlwm wrthynt am y llecyn, ei hanes a chynefin ein cyndeidiau (pwy bynnag ydyn ni). Wrth gwrs, yn deillio o hynny mae llawer o enwau yn cynnwys gwybodaeth ecolegol. Hynny sydd yn amlwg gobeithio i ddarllennwyr y cylchgrawn hwn. Ond cyfyngiedig a dweud y lleiaf yw’r ddadl hon – oni fyddai enwau wedi eu cyfieithu i’r Saesneg yn cyflawni yr un diben. Na, mae hi’n llawer dyfnach na hynny.

Bum yn dilyn o bryd i’w gilydd ymgyrchoedd pobl fel yr aborigeneaid i gadw eu tiroedd sanctaidd rhag amharch estroniaid – pobl o’r tu allan nad oes y modd ganddyn nhw i ddeall arwyddocâd lleoedd i frodorion – “y moch yn y winllan” o enwog coffadwriaeth. Mae Cenhedloedd Cyntaf gogledd America yn dadlau yn debyg.

Yn yr achos dan sylw ym Mhen y Pass, dyma enw Cymraeg digon diniwed a chyffredin. Gorffwysfa – gorffwysfa i bwy? Mae’n rhaid bod eraill gwell na fi yn gwybod yr hanes – os oes hanes mwy iddo nag sydd i sawl ‘gorffwysfa’ arall sydd yn ddim amgenach na lle i rywun rhyw dro rhoi traed i fyny, efallai am y tro olaf. Os oes mwy i’r enw na hynny dyna berlen difyr o wybodaeth sydd eto i’m cyrraedd. Rheswm da ynddo’i hun i gadw gafael ar enw.

Yn ôl Maldwyn mae hen, hen hanes i’r lle: crybwyllodd Thomas Pennant yr enw Gorphwysfa yn 1773; adeiladwyd y ffordd newydd drwy’r bwlch yn 1830; yn 1843 roedd na dafarn fechan a bythynnod ar y safle; ailadeiladwyd y dafarn yn 1901 a theulu Owen Rawson Owen fu perchenogion y gwesty ers 1903; fe’i cauwyd yn 1967; a phrynwyd yr adeilad gan yr YHA ac agorwyd yr hostel yn 1971.

A dyna ddod at yr enw newydd “Mallory’s”. Y peth olaf rydwi am ei wneud yw amharchu enw’r dyn hwn sydd yn arwr ym myd dringo ac a fwrwodd peth o’i brentisiaeth ar yr Wyddfa. Dyma ddyn a gyflawnodd fwy yn ei faes a’i oes na’r helyw ohonom. Ac mae o’n haeddu cael ei gydnabod yn Eryri yn ddi-os. Ond nid ar draul enw Cymraeg – mae hwnnw yn sanctaidd fel mae Cho Oyu (Everest) i bobl Tibet neu Uluru (Ayres Rock) i un o genhedloedd yr Aborigine.

Onid enwau lleoedd Cymraeg yw ein hunig afael bellach ar ein tir a gyda phob cyfryw newid bach mae’r gafael hwnnw yn llacio. Fesul blewyn yr aiff y pen yn foel. Caiff Maldwyn y gair olaf: “Mae’n fy ngwylltio i’n gacwn bob tro yr af heibio’r hen Orphwysfa a gweld yr enw ’na … cywilydd arnom … “. Drosodd i chi, Gymdeithas Eryri!

Duncan Brown

www.llennatur.com

 

Comments are closed.