Digwyddiad cymdeithasol ac ymweliad i Gastell Carndochan

Digwyddiad cymdeithasol i aelodau a gwirfoddolwyr
Capel Curig, 12 Mawrth

Ar ol Taith o amgylch Capel Curig cewch fwynhau cinio blasus yn Nhafarn y Bryn Tyrch, ac wedyn, sgwrs gan Owain Thomas am ein gwaith gwirfoddol cyfredol.

Rhaid cadw lle ymlaen llaw:

 01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk
Rhaid archebu cinio ymlaen llaw.

Rhagor o wybodaeth


Castell Carndochan, Dydd Mawrth 22 Mawrth

View of site from above generated from 3D model

Trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Ymweliad tywysedig prynhawn i gastell o Oes Tywysogion Cymru yn Llanuwchllyn nad yw’n hysbys iawn. Dan arweiniad Anita Daimond o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, cewch gipolwg ar eu gwaith cloddio a chadwraeth diweddar.

Mae na daith gerdded byr yn cynnwys gallt. Byddem yn trefnu rhannu ceir o’r pentref oherwydd y lle parcio cyfyngedig wrth y maes.

Rhodd isafswm a awgrymir: aelod £4; £8 ddim yn aelod.

Rhaid cadw lle ymlaen llaw:

 01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk

Rydym yn cadw’r hawl i droi pobl i ffwrdd nad ydynt wedi archebu lle.

Comments are closed.