Gwanwyn – gobaith ar gyfer 2021! Y diweddaraf gan Gymdeithas Eryri

Dyma’r gwanwyn wedi cyrraedd, gan ddod â gobaith ar gyfer 2021. Yn gyntaf yr eirlysiau, yna caneuon yr adar, crocysau a rŵan cennin Pedr, cynffonnau ŵyn bach ar y coed cyll a heulwen – pa wahaniaeth mewn cwpl o wythnosau!

Y llynedd pan glywsom am y coronafirws yn gyntaf ni allem fod wedi dychmygu cymaint fyddai ei effaith ar ein bywydau. Gwnaeth coronafirws chwalu rhai o’n cynlluniau, ond mae llawer o bobl wedi colli mwy na’r cyfle i wneud rhywbeth gwerth chweil y tu allan.

Llwyddwyd i gynnal 67 o ddyddiau gwirfoddoli drwy gydol 2020, o’u cymharu â dros gant o ddyddiau tebyg a fynychir gan wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri fel arfer mewn blwyddyn. Ymysg y 24 diwrnod o waith cadwraeth y llwyddodd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri eu cynnal ar ddechrau’r flwyddyn roedd creu llwybrau ger Llan Ffestiniog, plannu coed mewn amrywiol leoliadau yng Nghonwy, clirio prysgwydd a thrwsio ffensys ar warchodfeydd natur, a gwaith cynnal a chadw coedlannau ar dir Tŷ Hyll.

Wedi’r cyfnod clo cyntaf, galwodd niferoedd enfawr o ymwelwyr heibio’r mannau poblogaidd arferol i dwristiaid, gyda mwy o ymwelwyr o bell a fyddai fel arfer yn mynd dramor am eu gwyliau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr a ymunodd â’r timau ‘Croeso’n Ôl’ yn yr ardaloedd hyn, gan alw heibio mannau prysur, cynghori ymwelwyr a chasglu swm enfawr o sbwriel (oddeutu 540 bag du) dros dridiau ar wyth penwythnos prysur. Partneriaeth oedd y project hwn rhwng Cymdeithas Eryri, y Bartneriaeth Awyr Agored ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Diolch o galon i wardeniaid gwirfoddol anhygoel yr Wyddfa hefyd!

Roedd yn braf cael dychwelyd i weithgareddau cadwraeth eraill gyda gwirfoddolwyr wedi’r haf. Llwyddwyd i gynnal 18 diwrnod arall o gadwraeth ymarferol rhwng y cyfnodau clo a’r Nadolig, yn cynnwys glanhau’r traeth, casglu sbwriel ar yr Wyddfa ar ddiwedd y tymor, casglu llawer o fes a fydd yn cael eu meithrin yn goed i’w plannu ledled Eryri, cynnal a chadw llwybrau a difa’r llwyn estron Rhododendron ponticum.

Dros y gaeaf, fe fyddem fel arfer wedi bod yn gofyn i wirfoddolwyr helpu ein cyrff cadwraeth sy’n bartneriaid i blannu cannoedd neu hyd yn oed miloedd o goed. Mae’r gwaith hwn yn amlygu pam fod angen gwirfoddolwyr arnom! Edrychwn ymlaen at gynorthwyo cyrff cadwraeth lleol unwaith eto. Cofrestrwch rŵan i fod yn wirfoddolwr gyda Chymdeithas Eryri, fel y byddwch yn barod i gychwyn pan fydd cyfleoedd i wirfoddoli ar gael unwaith eto. Trefnwyd dull diogel gennym o weithio rhag dal y coronafirws y llynedd, felly pan fyddwn yn gallu hysbysebu dyddiau cadwraeth ymarferol neu unrhyw ddigwyddiadau, ein blaenoriaeth fydd diogelwch rhag y coronafirws.

Rydym yn aros am y diweddariad nesaf gan y llywodraeth am reoliadau coronafirws er mwyn penderfynu pryd y gallwn gyfarfod a gweithio’n ddiogel yn yr awyr agored unwaith eto. Yn y cyfamser, mae ein tîm bychan o staff yn paratoi ar gyfer cyrsiau byr achrededig am warchod Eryri a gynigir i’r cyhoedd – gyda rhai ohonyn nhw ar gael ar-lein. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i helpu’r ardal i ddygymod â’r nifer o ymwelwyr sy’n debygol o heidio i’r ardal unwaith eto eleni (rhywbeth tebyg i broject Croeso’n Ôl y llynedd).

Cofiwch chwilio am sgyrsiau ar-lein tra byddwn yn dal yn gaeth i’n cartrefi. Edrychwch ar ein tudalennau Facebook, Instagram a Twitter. Pam na wnewch chi ymaelodi er mwyn cefnogi ein helusen i barhau â’n gwaith, gan alluogi pobl leol i gymryd rhan yn ymarferol mewn gwarchod Eryri?

Comments are closed.