Dwsinau o wirfoddolwyr yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth yn Eryri
Mae Cymdeithas Eryri wedi cynnal ei pedwerydd ‘Penwythnos Mentro a Dathlu’ eleni, gyda phartneriaid, noddwyr, gwirfoddolwyr a staff yn dod ynghyd wedi 18 mis heriol. Gwireddwyd nifer o orchwylion ymarferol i helpu i warchod harddwch, rhywogaethau a chynefinoedd Parc Cenedlaethol Eryri:
• Cliriwyd 15kg o sbwriel anodd-ei-gyrraedd o Lyn Padarn gyda chanŵ.
• Cliriwyd egin goed coniffer ymledol o 16 hectar o fawnogydd gwerthfawr.
• Cliriwyd 17m² o brysgwydd eithin o anheddiad cynhanesyddol yn y Carneddau.
• Ailgylchwyd dwsinau o boteli plastig, gwydr, caniau a chwpanau papur o lwybr Watkin yr Wyddfa.
• Casglwyd pwcedi o hadau coed criafol, drain gwynion a chyll ar gyfer projectau plannu gan Goed Cadw yn y dyfodol.
• Cliriwyd 20m o ffensio a dwsinau o diwbiau plastig coed ifanc o safle coedlan frodorol.
• Cliriwyd hanner acer o brysgwydd i ddarparu cynefin tywod agored ar gyfer infertebratau prin y twyni.
• Gwnaed gwaith cynnal a chadw ar 13km o lwybrau ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.