Gofalu am ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Gofalu am ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Gan Anita Daimond, Swyddog Ymgysylltu Coedwigoedd Glaw LIFE 

Ymunwch â digwyddiadau i ddysgu am a gwarchod ein Coedwigoedd Glaw Celtaidd

Bydd Cymdeithas Eryri ar y cyd â phartneriaid prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn cynnal digwyddiadau yn ystod yr haf er mwyn i chi ddarganfod mwy am nodweddion arbennig ein coetiroedd brodorol hynafol yng Nghymru. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys taith gerdded cân adar y wawr dan arweiniad John Harold a chwrs cen dan arweiniad Tracey Lovering. Bydd diwrnodau cadwraeth ymarferol hefyd pan allwch chi gymryd rhan mewn gwaith rhag rhywogaethau ymledol er mwyn amddiffyn ein coetiroedd a chynefinoedd bregus eraill.

Gyda’r nod o warchod ardaloedd o goetir hynafol brodorol yng Nghymru, mae’r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn cael ei ariannu gan raglen Natur a Bioamrywiaeth Comisiwn Ewropeaidd LIFE a Llywodraeth Cymru. Cyfeirir at y Coedwigoedd Glaw Celtaidd hyn yn aml fel coetiroedd yr Iwerydd neu goedwig law dymherus. Ym Mharc Cenedlaethol Eryri mae ffocws y gwaith ar safleoedd o fewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Eryri a Choedydd Derw Meirionnydd (ACA).

Prif ffocws y prosiect yw gwaith cadwraethol fel:

  • Cael gwared a’r Rhododendron Ponticum sef rhywogaeth anfrodorol ymledol a’r bygythiad mwyaf i’n coetiroedd brodorol
  • Cyflwyno pori ac ymgymryd â gwaith teneuo ar safleoedd lle mae dwysedd yr is-haen yn bygwth rhywogaethau allweddol fel cen prin
  • Cael gwared ar rywogaethau coed anfrodorol fel conwydd sydd wedi’u Plannu ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)

Ategir hyn gan raglen ymgysylltu sy’n cynnwys

  • gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gynefin y Goedwig Law Geltaidd
  • cyfres o adnoddau addysg
  • pecyn o ddigwyddiadau hyfforddi ynghyd â phecynnau cymorth y gellir eu lawr lwytho ac astudiaethau achos wedi’u hanelu’n benodol at reolwyr tir

I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, ewch i www.celticrainforest.wales a chadwch lygad am ragor o fanylion am ddigwyddiadau gan Gymdeithas Eryri.

Comments are closed.