Coed ar gyfer y dyfodol

Fel y gwyddoch eisoes, o bosib, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu plannu 20 miliwn o goed brodorol dros y degawd nesaf fel rhan o’u Cynllun Apêl Coedlannau. Er bod cynyddu gorchudd coed drwyddo draw yn bwysig, cyn bwysiced â hyn yw sicrhau tarddle y coed yma. Gyda bygythiadau cynyddol i goed gan heintiau a newid hinsawdd mae sicrhau amrywiaeth o goed a dyfid yn lleol yn fwyfwy pwysig. Dyna pam fod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi sefydlu eu meithrinfa goed eu hunain yn Eryri sy’n tyfu hadau o goedlannau lleol; mae’r coed felly yn gallu ffynnu o dan amodau lleol (gallwch ddysgu mwy am y pwnc hwn drwy ddarllen ein herthygl ar y pwnc).

Felly, roedd yn fraint enfawr treulio diwrnod yn cyfrannu at y nod uchelgeisiol hwn ochr yn ochr â Dan a Mary o Gymdeithas Eryri, a Dave Smith.

Gorchwyl cyntaf Dan, Mary a minnau oedd casglu hadau rhywogaethau o goed brodorol o fewn yr ardal ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Aberglaslyn, cornel wirioneddol hyfryd o Eryri sydd fel ardal gudd a hyfryd o’i chymharu â’r tirlun mynyddig agored dim ond ychydig o gilometrau i’r gogledd. Yng nghysgod coed derw’n bennaf, ffawydd, y gastanwydden bêr, a chonifferau, casglwyd oddeutu 2,000 o fes a chryn dipyn o ffrwyth castan o’r ddaear. Fodd bynnag, mae hi’n ymddangos ei bod yn flwyddyn wael i ffrwyth ffawydd, gan mai ychydig iawn y cawsom hyd iddyn nhw.

Yn y prynhawn, aethpwyd â’r llond sach o hadau i Feithrinfa Goed Hafod Garegog, lle cawsom gyfarfod Dave, a ddangosodd i ni’r 2,000 o egin goed sydd eisoes yn tyfu yno dim ond blwyddyn ar ôl agor y feithrinfa. Yma rhoddwyd cartref i’r 500 o fes a 36 o goed castanwydden ar gyfer y gaeaf mewn potiau ar hambyrddau cyn y byddan nhw’n cael eu plannu ar wahanol safleoedd ledled y Parc Cenedlaethol.

Drwyddo draw, roeddem yn falch o’n hymdrechion o ystyried maint bach y grŵp, y prinder amser, a natur ddi-ben-draw yr orchwyl. Ond, yn bersonol, cefais fwynhad mawr o gymryd rhan mewn ymddygiad dynol mor reddfol â chwilota am fwyd a meithrin planhigion, dros achos fyd-eang.

Erthygl a ysgrifennwyd gan fyfyriwr ar leoliad,

Owen Davies.

 

Comments are closed.