Mes ym mhobman!

Mes ym mhobman!

Hydref – y tymor pan fydd y dail yn troi eu lliw ac yn cwympo, gan chwyrlïo’n araf o’r coed, pan fo’r awyr yn oeri a’r rhedyn crin yn ychwanegu lliw arall i’r tirlun. (Os nad ydych yn rhywle fel fy nghartref, Sir Benfro, lle mae’r dail yn sychu heb y cyfnod melyn nag oren ac yn troi’n frown a chrin cyn cael eu rhwygo o’r canghennau gan y gwyntoedd cryfion!) Dyma hefyd dymor yr aeron a’r mes – miloedd ar filoedd o fes! Ydych chi wedi sylwi cymaint o fes sydd wedi cwympo eleni? Mae hi’n bendant yn flwyddyn dda o ran mes a chnau o bob math. Ambell flwyddyn ceir cnwd arbennig o niferus o fes, cnau ffawydd, cnau’r gastanwydden bêr a mwy.

Pam fod cymaint o fes a chnau’n cael eu cynhyrchu ambell flwyddyn ond nid pob blwyddyn? Mae gan Coed Cadw erthygl ddifyr am hyn yma. Mae’n awgrymu, os yw’r coed yn cynhyrchu llawer mwy o ffrwythau nag sy’n debygol o gael eu bwyta gan anifail neu aderyn, bod mwy o gyfle i’r hadau a’r cnau yma egino. Mae gormod i’w bwyta, neu a gaiff eu cuddio ar gyfer y misoedd llwm, yn golygu mwy yn egino. Wrth gwrs, o’r rhain, dim ond ychydig fydd yn goroesi ac yn tyfu’n goed. Y llynedd, er enghraifft, roedd eginblanhigion ffawydd bach lluosog iawn yng Nghoed Cae Fali, ond erbyn eleni ychydig o’r rheini sydd wedi goroesi. (Mae’n bosibl bod geifr neu ddefaid wedi llwyddo i ddod i mewn ac wedi eu bwyta). Dydy adfywiad naturiol coed ddim yn digwydd mor rhwydd â hynny.

Dyma un rheswm dros dyfu a phlannu coed – i gynnig cymorth i fyd natur. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol feithrinfa goed newydd yn Eryri lle y gobeithir tyfu hyd at 20,000 o goed bob blwyddyn. Gwahoddwyd Cymdeithas Eryri i gyfrannu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Felly rydym wedi dechrau drwy gasglu rhai miloedd o fes a hadau coed eraill. Roeddem hefyd wedi gobeithio casglu hadau coed ar gyfer Coed Cadw gan ein bod wedi cydweithio â nhw sawl gwaith, ond oherwydd y cyfnod clo ni wireddwyd y cynlluniau hynny.

Wrth gasglu hadau’n lleol rydym yn gwybod bod y coed a dyfir o ‘darddiad lleol’: maen nhw’n llawer mwy tebygol o ffynnu yn yr hinsawdd lleol na choed a brynir o feithrinfa a ddaw’n wreiddiol o bosib o leoliad ymhell i ffwrdd. Mae hefyd yn osgoi’r risg o heintiau o fannau pell. Mae’n debyg bod yr haint sydd ar hyn o bryd yn difa coed yn ledled gwledydd Prydain wedi dod yma ar goed a dyfid ar y cyfandir ar gyfer cyflenwyr ym Mhrydain.

Byddwn yn colli llawer o goed ledled gwledydd Prydain i’r haint coed ynn yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, fel y collwyd coed llwyfen ychydig o ddegawdau yn ôl i’r haint coed llwyfen Iseldirol. Felly dyma’r amser i gasglu mes a hadau coed brodorol eraill, eu tyfu a’u plannu yn y pen draw. Fel hyn gallwn gyfrannu at gynyddu gorchudd coed, sy’n sefydlu’r pridd ar lethrau serth, helpu lleihau y risg o llifogydd, yn cynyddu bioamrywiaeth pryfed, cennau a phob math o fywyd gwyllt ac sy’n darparu ‘coridorau bywyd gwyllt’ fel lloches i anifeiliaid bach rhag ysglyfaethwyr.

Chwiliwch am newyddion pellach am ein rhan ni mewn materion yn ymwneud â choed gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Choed Cadw. Y gaeaf hwn rydym yn edrych ymlaen at helpu i blannu coed mewn gwahanol leoliadau yn Eryri fel rhan o gynlluniau cadwraeth tymor hir ein partneriaid … yn dibynnu beth fydd yn cael ei ganiatáu o ganlyniad i’r sefyllfa coronafirws, wrth gwrs.

Comments are closed.