Pont yr Afon Gam?

Heddiw rydym ni wedi cyflwyno’n sylwadau ynglŷn â chais cynllunio NP5/59/495A ar gyfer cynllun trydan dŵr 600kW yng Nghwm Cynfal, Llanffestiniog.

Cewch darllen ein sylwadau yma:  Cwm Cynfal hydro NP5 59 495A

Bron â 100 datblygiad o’r fath sydd wedi cael eu caniatâu yn Eryri dros y 5 mlynedd diwethaf.  Rydym wedi gwrthwynebi canran isel ohonynt, lle mae risg ormodol i dirwedd, bywyd gwyllt neu mwynhâd y cyhoedd o rinweddau arbennig y Parc.  Mae sawl elfen y cynllun presennol sy’n peri risg i harddwch Cwm Cynfal, Rhaeaedr y Cwm a’r Afon Cynfal ei hun.

Mae ein pryderon ni yn cynnwys::

  • risg i fynediad cyhoeddus yn ystod y cyfnod datblygiaeth; fydd angen cau neu ail-leoli 300m o Lwybr Cyhoeddus 22, sydd hefyd yn rhan o Lwybr Llechi Eryri.  Ni fyddem ni’n rhagweld ffordd siml neu saff i’w wneud.
  • dros cyfnod a ddefnyddiwyd y cynllun trydan dŵr, fydd yr afon, y rhaeadr a’r Cwm ei hun yn llai pwerus fel atyniad i bobl sydd isio mwynhau swn a llif y dŵr.  Mae sawl elfen o’r prosiect – strwythyrau ac adeiladau yn debyg o difethu’r profiad sydd gan bobl lleol ac ymwelwyr.
  • Costyngiad llif naturiol dŵr yr afon o 70%, uwchben llif bach sylfaenol.

Rydym yn cadw llygaid barcud ar y cynllun arfaethedig yma – wnawn i adael i chi wybod os bydd diweddariad.

Comments are closed.