Blwyddyn orau erioed i’r Gymdeithas yn Ffair Hadau flynyddol Conwy
Fe wnaeth y gwanwyn gychwyn o ddifrif yr wythnos diwethaf wrth i ddegau o stondinwyr ymgasglu yng nghanol tref hanesyddol Conwy i gyfranogi yn y Ffair Hadau flynyddol, a drefnir gan Wenynwyr Conwy.
Eleni, fe wnaeth Cymdeithas Eryri elw rhagorol o £290 wrth werth planhigion a hadau; dyma’r cyfanswm mwyaf ers i’r Gymdeithas gychwyn cyfranogi yn y digwyddiad blynyddol.
Dywedodd Margaret Thomas, un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas:
“Rydym ni wrth ein bodd fod cynifer o bobl wedi ymddiddori yn ein planhigion a’n hadau eleni. Mae’n debyg fod ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd planhigion sy’n llesol i bryfed peillio, a bydd llawer o bobl yn dewis rhywogaethau ar gyfer eu gerddi a wnaiff helpu gloÿnnod byw a gwenyn i fynnu.”
Ychwanegodd: “O glychau’r gog i gribau San Ffraid, mae gennym ni gatalog o hadau a phlanhigion sy’n llesol i’r ardd, ac mae llawer ohonynt yn deillio o flodau gwyllt Tŷ Hyll.”
Yn ogystal â gwerthu planhigion, fe wnaeth dau aelod newydd ymuno â’r Gymdeithas ar y diwrnod, ac fe wnaeth degau o bobl ddod atom ni am sgwrs i ganfod sut gallant gyfrannu at y gwaith o warchod Eryri.
Gwreiddiau hanesyddol
Mae Cymdeithas Eryri yn gwerthu planhigion i godi arian er lles Eryri ers i’r Gymdeithas gael ei sefydlu gan Esmé Kirby yn 1967. Mae’r llun ar y dde yn dangos un o arwerthiannau planhigion enwog Esmé yn ystod y dyddiau cynnar hynny yn Nyffryn Mymbyr.
Helpwch i gynnal pryfed peillio
Os hoffech chi brynu rhai o’n Hadau er lles Gwenyn ar-lein, cliciwch yma.
Gallwch hefyd brynu ein hadau a’n planhigion sy’n llesol i bryfed peillio yn ystafell de Tŷ Hyll, ger Betws y Coed, ble gall aelodau o Gymdeithas Eryri gael 20{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o ddisgownt!
Dyddiadau i’w nodi yn y Dyddiadur:
- Ymunwch â ni i fwynhau taith gerdded ‘Dirgelwch Ty Hyll’ yng nghoetir Tŷ Hyll, ar ddydd Llun 21 Mai, pan fydd y gwanwyn yn ei anterth. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
- Cofiwch am Ffair Fêl enwog Conwy, ar ddydd Iau 13 Medi, ble bydd Cymdeithas Eryri yn cynnal stondin unwaith eto yng nghanol y dref hanesyddol hon. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.