Ystafell de’r Pot Mêl

01492 642322

Mae’r Pot Mêl yn cynnig dewis gwych o gacennau cartref, prydau, te a byrbrydau mewn awyrgylch unigryw. Bydd ar agor bob dydd o’r wythnos, o 10:30 y.b. tan 5 y.p. Gweler yr amrywiadau diweddaraf.

Gostyngiad o 20%i aelodau Cymdeithas Eryri

Mae Cymdeithas Eryri yn falch iawn o gael gweithio gyda tenantiaid yr ystafell de, Tim a Ayla Maddox. Maent yn cynnig gostyngiad hael o 20% ar fwyd a diod i  aelodau Cymdeithas Eryri. Ymaelodwch nawr i elwa!

Caws Pobi â’i rysáit cyfrinachol

Mae Tim ac Ayla’n adnabyddus am safon ragorol bwyd a gwasanaeth eu hystafell de. “Rhoddir blaenoriaeth i gynhwysion wedi’u cyrchu’n lleol ar ein bwydlen, ac rydym wedi creu dewis o seigiau i godi blys ar unrhyw gwsmer. Rhaid profi seigiau sawrus megis ein Caws Pobi â’i rysáit cyfrinachol, yn ogystal â’n dewis o dartennau sawrus cartref a’n Hwyau Albanaidd poblogaidd iawn. Bydd cawl cartref bob amser ar y fwydlen, a bydd yn newid yn ddyddiol yn dibynnu ar y cynhwysion tymhorol sydd ar gael. Bydd sgons a chacennau traddodiadol megis Bara Brith neu deisennau cri yn ffres o’r radell bob amser ar gael.”

Pa un ai a ydych yn chwilio am bryd sylweddol, Te Hufen Cymreig traddodiadol neu dim ond paned sydyn, dewch draw i ystafell Tŷ Hyll i gael croeso cyfeillgar mewn lleoliad unigryw a diddorol.

Archebu bwrdd

Os ydych yn ymweld â’r ystafell de gyda grwp o 8 neu ragor, ffoniwch Tim ac Ayla ymlaen llaw ar 01492 642322 i archebu bwrdd.