Trem yn ôl ar fis Chwefror

Ni wnaeth tywydd gwlyb mis Chwefror rwystro ein gwirfoddolwyr gweithgar rhag mynd allan i weithio er lles Eryri! Fe wnaethant weithio’n galed i reoli coetiroedd, clirio llwybrau, plannu coed a chlirio bambŵ. Y mis hwn, fe wnaethant weithio dros 250 awr i gynnal a chadw ac amddiffyn  Eryri! Da iawn bawb!

Plannu coed, mis Chwefror 2017

Hefyd ym mis Chwefror, fe wnaeth 8 cyfranogwr cyntaf ein huned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol fynychu eu sesiwn gyntaf. Fe wnaethant dreulio diwrnod oer iawn yn Tŷ Hyll yn dysgu sut i asesu risgiau a chynnal a cadw offer. Diolch o galon iddynt am fentro allan yn y tywydd oer a helpu i sicrhau fod ein hoffer yn barod am y flwyddyn sy’n dod! Dros y misoedd nesaf, byddant yn mynychu rhagor o ddiwrnodau gwaith, yn cwblhau eu hasesiad risgiau eu hunain ynghylch dau lecyn gwahanol ac yn rhoi cyflwyniad am ddiogelwch ar safleoedd a diogelwch offer i wirfoddolwyr eraill! Mae llawer ohonynt eisoes wedi gwneud cynnydd da tuag at gwblhau’r uned gyntaf.

Diolch o galon i bawb sydd wedi gwirfoddoli er budd Eryri hyd yn hyn! Mewn gwirionedd, ni fyddai modd gwneud ein gwaith heb eich cymorth chi. Os hoffech chi fynd allan i’r awyr agored y gwanwyn hwn, darllenwch am ein diwrnodau gwaith yn y dyfodol agos. Mae croeso i bawb ac nid oes angen unrhyw brofiad.

Comments are closed.