Cymdeithas Eryri yn buddsoddi yng nghadwraethwyr y dyfodol

Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch cadwraeth? A hoffech chi weithio ym maes cadwraeth yn y dyfodol?  Fel rhan o weithgareddau ei hanner canmlwyddiant, mae’r elusen cadwraeth Cymdeithas Eryri yn edrych tua’r dyfodol ac yn buddsoddi mewn gwirfoddolwyr. Bydd cyfle newydd yn caniatáu i wirfoddolwyr ennill tystysgrif hyfforddiant achrededig fel tystiolaeth o’u sgiliau cadwraeth ymarferol.

Dyfernir y dystysgrif newydd hon am gwblhau’r uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol (sy’n cyfateb i uned TGAU neu NVQ lefel 2).  Mae swyddi yn y sector cadwraeth ymarferol/awyr agored yn hynod gystadleuol, ac mae ymgeiswyr yn gorfod gwneud mwy nag erioed i sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw’r gweddill, felly bydd y dystysgrif hon yn ychwanegiad defnyddiol i’ch CV.

Mae’r uned yn ddelfrydol i wirfoddolwyr presennol, ac i’r sawl sy’n awyddus i gychwyn. Bydd angen oddeutu 30 awr i orffen yr uned, a bydd ddeutu 20-25 o’r rhain yn ddiwrnodau gwaith cadwraeth ymarferol. Mae’r ychydig o waith papur sydd angen ei wneud yn cynnwys cofnod ysgrifenedig o bob diwrnod gwaith cadwraeth.

Mae lleoedd yn gyfyngedig – i gael rhagor o wybodaeth am yr uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol neu gyfleoedd eraill i gyfranogi mewn cadwraeth wirfoddol, cysylltwch â Mary-Kate Jones:

mary-kate@snowdonia-society.org.uk

Mae’r fenter newydd hon yn rhan o raglen cadwraeth ymarferol hirhoedlog ac ymarferol iawn Cymdeithas Eryri, a chefnogir y fenter gan Rhodd Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru, “People’s Postcode Lottery”, Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Eryri Esme Kirby.  Trefnir digwyddiadau cadwraeth a digwyddiadau hyfforddiant ledled Eryri bob wythnos.

 

Comments are closed.