Diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!

Rydym yn falch iawn o dderbyn £20,000 gan Ymddiriedolaeth Cymunedol y Cod Post, elusen sy’n rhoi grantiau, a ariennir yn llwyr gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl. Fe aiff yr arian hwn tuag at gynnal ein gwaith cadwraeth ymarferol a helpu pobl i ddarganfod ac ymwneud â thirluniau arbennig a bywyd gwyllt Eryri. Bydd llwybrau’n cael eu trwsio, rhywogaethau ymledol yn cael eu clirio, a chynefinoedd yn cael eu rheoli’n well dros fywyd gwyllt. Byddwn hefyd yn buddsoddi yn ein gwirfoddolwyr drwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi cyffrous yn ogystal â gallu cynnig cludiant am ddim i rai digwyddiadau gwirfoddoli allweddol! Cysylltwch am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri.

 

Comments are closed.